Mae’r ffermwr o Drawsfynydd, Elfed Wyn Jones, newydd gael ei benodi’n Swyddog Maes Dyfed gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ar ôl treulio bron i dair blynedd yn astudio gwleidyddiaeth yn y Brifysgol ger y lli, mae’n cymryd lle Bethan Williams fel Swyddog Maes, ac mae eisoes wedi dechrau ar ei waith o’r swyddfa yn Aberystwyth.
BRWYDRO YN NOD BYWYD
Pan welodd Elfed yr hysbyseb am y swydd hon, roedd yn rhaid iddo ymgeisio amdani. “Nod fy mywyd yw brwydro dros Gymru a’r iaith” meddai. Ac mae’r gŵr ifanc, a fu’n ymprydio’n ddiweddar dros ddatganoli darlledu i Gymru, wedi bod ar dân i weithio dros Gymru a’r Gymraeg ers iddo sylweddoli’n ifanc iawn mor lwcus ydym ni i gael ein hiaith a’n diwylliant ein hunain.
Mae “ysbryd radicalaidd” y Gymdeithas yn ei siwtio i’r dim felly. ‘Dyw protestio’n codi dim ofn arno, ac mae’n barod i wireddu egwyddor y mudiad ac ymwrthod â’r “drefn” er mwyn brwydro am fyd gwell i’r iaith Gymraeg a phobl Cymru, a brwydro anghyfiawnder.
CYMELL CELLOEDD
Un o’i brif dasgau fydd cymell celloedd y Gymdeithas i dyfu ar hyd a lled tair sir y gorllewin – yn ein cymunedau ac mewn ysgolion. Mae’n gweld bod cyfle i wneud newid mawr drwy annog pobl i frwydro dros yr iaith yn lleol ac yn genedlaethol. Mae hefyd am ddarganfod ffyrdd o’i gwneud hi’n haws i bobl ddi-Gymraeg ddysgu’r iaith yn y gorllewin.
Er ei fod yn sylweddoli maint yr her a’r problemau sy’n wynebu iaith leiafrifol, bachgen positif yw Elfed. Mae’n gallu gweld potensial mawr ar gyfer twf y Gymraeg yn y dyfodol. Fel y dywedodd wrth Golwg – “Mae wastad gobaith i lwyddo, ond rhaid brwydro yn galed amdano.”
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360