Jest y Job i Ysgogydd newydd Bro360

Galluogi a chymell pobol i greu a rhannu eu straeon lleol. Dyna nod Daniel Steffan Johnson, sydd wedi treulio’r ychydig ddiwrnodau diwethaf yn setlo mewn i’w swydd fel Ysgogydd prosiect arloesol Bro360. Ond pwy yw Daniel?

Shw’mae Daniel! Rho ychydig o dy hanes i ni.

Dwi’n 25 oed ac yn dod yn wreiddiol o bentref Penegoes ger Machynlleth. Astudiais Astudiaethau’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, ac ers dechrau Chwefror dwi wedi dechrau fel Ysgogydd prosiect Bro360 ar gyfer ardal gogledd Ceredigion.

Beth fues ti’n ei wneud cyn y swydd hon?

Gweithio fel Cynorthwy-ydd Marchnata y Cyfryngau Traddodiadol i Brifysgol Aberystwyth.

Felly rwyt ti’n parhau i weithio yn Aberystwyth?

Ydw a nac ydw – mae ardal Bro360 yn ymestyn ar draws gogledd y sir i gyd – o Lanrhystud reit i fyny i Dre’r Ddôl a draw i Dregaron – a phob man yn y canol! Felly bydda i’n ymweld â’r ardaloedd yma i gyd yn rhan o’r swydd er mwyn annog pobol i greu eu gwefannau bro lleol eu hunain.

Sut wyt ti’n treulio dy amser y tu allan i’r gwaith?

Dwi’n mwynhau gwylio pêl-droed a chriced, ac yn aml yn mynd i wylio gemau byw. Os nad oes gemau byw, dwi’n hoffi gwylio’r teledu, darllen neu wrando ar gerddoriaeth.

Sut wyt ti’n hoffi dy baned?

Te plîs! Gyda dau siwgr a llaeth mewn mwg ‘Independent Football Nation’ gan gwmni Spirit of 58.

Hoff dîm chwaraeon:

Clwb Pêl-droed Birmingham City – dwi’n ffan mawr!

Beth yw’r ŵyl orau i ti fynd iddi?

Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion, pan ddaru Noel Gallagher a’r Super Furry Animals chwarae.

Pwy yw dy hoff gomedïwr?

John Robins.

Beth yw dy hoff ddiod feddwol?

Dwbwl fodca efo lemon a leim.

Pa air wyt ti’n ei ddefnyddio’n rhy aml?

Arglwydd!

Pa wahaniaeth hoffet ti ei wneud yn dy swydd?

Datblygu rhwydwaith o wefannau lleol i newid hinsawdd newyddion Cymru.

Pam ddylai pobl gogledd Ceredigion gymryd rhan yn Bro360?

Mae’n gyfle gwirioneddol i fod yn rhan o brosiect newydd cyffrous, ac mae croeso i bawb. Gyda’n gilydd, gallwn ni greu cymdeithas sy’n hyderus i greu a rhannu ei straeon a’i newyddion lleol ei hunan.

Dechreuodd Daniel Johnson ar ei swydd ar 4 Chwefror fel Ysgogydd gogledd Ceredigion, a bydd yn cydweithio’n agos â Lowri Jones, Cydlynydd y Prosiect, Ysgogydd ardal Arfon a thîm Cwmni Golwg.

Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Aelodaeth

Dyddiad cau: Mai 3
Tinopolis

Peiriannydd

Dyddiad cau: Mai 6
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Seicolegydd Addysg Cyfrwng Cymraeg

Dyddiad cau: Mai 8
Undeb Bedyddwyr Cymru

Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 29

Cylchlythyr