Newid gyrfa

Newid gyrfa oedd hanes Ceri John – ar ôl gyrfa amrywiol penderfynodd fentro i fyd addysg, ac mae bellach yn athro Ffrangeg yn ei hen ysgol.

Wedi ei eni a’i fagu yn Aberystwyth, dechreuodd Ceri John ar yrfa eang yng Nghaerdydd oedd yn cynnwys amrywiaeth o swyddi – o fonitro’r cyfryngau i gydlynu etholiadau. Ond roedd wastad yn awchu i addysgu a diolch i gymhellion Llywodraeth Cymru i hyfforddi, yn ogystal â’i gariad tuag at Ffrangeg, y mae erbyn hyn yn gwireddu ei freuddwyd.

“Roedd fy rhieni’n athrawon, a dw i’n credu bod hynny wedi dylanwadu arnaf i. Roeddwn wirioneddol yn mwynhau’r gwaith oedd gennyf eisoes, ond roedd teimlad yn parhau mai addysgu oedd yr hyn oeddwn wir eisiau ei wneud – y cwestiwn mawr oedd sut i wneud hynny o safbwynt  ymarferol. Fe wnes ychydig o waith ymchwil a darganfod ei bod hi’n bosibl i mi hyfforddi tra’n cael fy nghyflogi yn fy swydd bresennol.”

Bonws arall i Ceri John oedd ei fod yn gallu ymgymryd â’r cwrs yn ei dref enedigol – yn ei hen ysgol hyd yn oed.

“Roeddwn wastad yn awyddus i ddychwelyd yn ôl i Geredigion, roeddwn wrth fy modd yno ac yn frwd i fagu fy nheulu fy hun yno. Roedd ychydig yn rhyfedd dychwelyd yn ôl i Benweddig, fy hen ysgol, ar y dechrau, gan fod rhai o fy nghyn-athrawon yn dal i fod yno! Ond, chymerodd hi ddim yn hir i fi setlo yno, ac erbyn hyn rydw i’n wirioneddol mwynhau’r profiad.”

Pwnc Ceri John ydi Ieithoedd Tramor Modern, gan arbenigo mewn Ffrangeg, ac mae wrth ei fodd yn gweld meddyliau ei fyfyrwyr yn agor i ieithoedd a diwylliannau newydd. “Dwi’n meddwl bod gen i fantais fy mod yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac o ganlyniad, mae fy myfyrwyr yn hollol ymwybodol o ddwyieithrwydd ac yn gallu sgwrsio mewn mwy nac un iaith.

“Mae’n rhaid i mi ddweud bod tripiau tramor yn wych hefyd – er bod gen i gyfrifoldeb sylweddol – mae’n gyffrous gweld y myfyrwyr yn cynnal sgwrs gyda’r trigolion lleol ar strydoedd Paris, neu archebu pryd o fwyd mewn bwyty. Mae’n swnio’n wirion ond mae pethau fel hyn yn fy llenwi â balchder.”

A beth fyddai cyngor Ceri John i unrhyw un arall sy’n ystyried newid eu gyrfa i fod yn athro?

“Gwnewch eich  gwaith ymchwil i ddechrau – mae amrywiaeth o opsiynau o ran cymhellion ar gael, felly mae’n rhaid i chi weld beth sydd fwyaf addas i chi. Ond fe allaf wirioneddol ddweud na wnewch chi ddifaru hyn – mae’n yrfa sy’n rhoi boddhad. I fi, mae wedi bod un o’r penderfyniadau gorau i fi wneud erioed.”

Mae hon yn erthygl noddedig gan gynllun Llywodraeth Cymru, Darganfod Addysgu.

Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Aelodaeth

Dyddiad cau: Mai 3
Tinopolis

Peiriannydd

Dyddiad cau: Mai 6
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Seicolegydd Addysg Cyfrwng Cymraeg

Dyddiad cau: Mai 8
Undeb Bedyddwyr Cymru

Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 29

Cylchlythyr