Llywodraeth Cymru

Swyddogion Cymorth Tîm

Dyddiad cau: 15 Gorffennaf 2024

Cyflog: £23,258 i £26,901

Dyddiad cau: 15/07/2024, 16:00

Ymunwch â Llywodraeth Cymru fel Swyddog Cymorth Tîm!

Ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth i Gymru?

Ar hyn o bryd, mae nifer o gyfleoedd cyffrous i benodi Swyddogion Cymorth Tîm ar draws sawl adran.  Mae ein Swyddogion Cymorth Tîm yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau llwyddiant ein Rhaglen Lywodraethu, gan helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau i bobl Cymru.

Pam ymuno â ni?

  • Gwneud Gwahaniaeth: Bydd eich gwaith yn cyfrannu’n uniongyrchol at lwyddiant amcanion Llywodraeth Cymru.
  • Gweithio’n Glyfar: Manteisiwch ar gyfuniad hyblyg o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa sy’n cyd-fynd â’ch ymrwymiadau chi a’r anghenion busnes.
  • Cyfleoedd ledled y wlad: Cewch weithio yn y swyddfa sydd agosaf i’ch cartref. Mae’r lleoliadau’n cynnwys y Drenewydd, Llandrindod, Caernarfon, Aberystwyth, Cyffordd Llandudno, Caerfyrddin, Caerdydd, Abertawe a Merthyr Tudful.
  • Cewch 31 o ddiwrnodau o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus a gwyliau braint), a chael bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
  • Cewch gyfleoedd dysgu a datblygu arbennig, cynlluniau llesiant gweithwyr a buddion eraill nad ydynt yn gysylltiedig â thâl gan gynnwys Cynllun Beicio – am ragor o wybodaeth gweler ein Pecyn Buddion Gweithwyr.

Fel Swyddog Cymorth Tîm, byddwch yn chwarae rhan ganolog yn ein gweithrediadau, gan sicrhau bod pethau’n rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon.  Dyma flas ar yr hyn y byddwch chi’n ei wneud:

Eich Cyfrifoldebau:

  • Cyfathrebu â chwsmeriaid: Byddwch yn ymwneud ag amryw o gwsmeriaid, sefydliadau a chyflenwyr, gan ymdrin ag ymholiadau wyneb yn wyneb, ar e-bost a thros y ffôn.
  • Cymorth mewn cyfarfodydd: Byddwch yn darparu cymorth hanfodol mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol, gan gynnwys gosod agendâu, trefnu apwyntiadau a chymryd nodiadau.
  • Drafftio dogfennau: Byddwch yn llunio dogfennau a llythyrau sy’n glir ac yn broffesiynol.
  • Cynllunio digwyddiadau: Byddwch yn trefnu ac yn cydlynu digwyddiadau a sicrhau bod pethau’n rhedeg yn esmwyth.
  • Rheoli data: Byddwch yn ymdrin â thaenlenni a chronfeydd data mewn modd manwl a chywir.
  • Prosesu ariannol: Byddwch yn prosesu taliadau ariannol, gan sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud yn brydlon ac yn gywir.
  • Cydweithio ag eraill: Byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau eraill yn eich maes busnes i gefnogi gweithrediadau, yn ôl yr angen.

Am bwy rydym yn chwilio:

  • Un sy’n gweithio fel rhan o dîm: Rydych chi’n ffynnu mewn amgylchedd cydweithredol, gan weithio’n dda gydag eraill tuag at nodau cyffredin.
  • Un sy’n cadw at derfynau amser: Gallwch gadw at derfynau amser heb fawr o oruchwyliaeth, gan ddangos eich bod yn weithiwr dibynadwy ac effeithiol.
  • Hyblyg: Rydych chi’n addasu’n hawdd i amgylchiadau sy’n newid ac yn barod i ymgymryd â gwahanol dasgau.
  • Cyfathrebwr hyderus: Rydych chi’n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Sgiliau TG cadarn: Rydych chi’n hapus i ddefnyddio offer TG ac yn meddu ar sgiliau digidol cadarn.
  • Rhifedd a llythrennedd: Rydych chi’n meddu ar sgiliau rhifedd a llythrennedd da.
Enw’r cwmni neu sefydliad
Llywodraeth Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
15 Gorffennaf 2024
Rhagor o wybodaeth
Menter Cwm Gwendraeth Elli

Swyddog Cynorthwyol Ynni

Dyddiad cau: Gorffennaf 12
Ofcom Cymru

Cynghorydd Materion Rheoleiddiol

Dyddiad cau: Gorffennaf 26
Llywodraeth Cymru

Swyddogion Cymorth Tîm

Dyddiad cau: Gorffennaf 15
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes

Dyddiad cau: Gorffennaf 7

Cylchlythyr