Datblygwr ynni adnewyddadwy ym mherchnogaeth y cyhoedd Llywodraeth Cymru – Trydan Gwyrdd Cymru
Swydd: Arweinydd Cysylltiadau Grid – 37 awr yr wythnos
Dyddiad cau: Hanner dydd 20 / 12 / 2024
Cyfeirnod: TGCGC
Amadanom ni
Sefydlwyd Trydan Gwyrdd Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2023. Ei bwrpas yw rhoi sero net a chymunedau Cymru wrth wraidd y newid sydd ei angen i fynd i’r afael â her enfawr newid hinsawdd. Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn cyflymu’r broses o gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws ystâd gyhoeddus Cymru, yn bennaf trwy dechnolegau ynni gwynt ar y tir a solar ffotofoltaig. Ein nod yw cael mwy nag un gigawat o ynni glân dan berchnogaeth leol, a gynhyrchir yn lleol erbyn 2040. Mae gennym gyfle gwirioneddol yma i gynhyrchu incwm a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i wella bywydau pobl yng Nghymru yn ogystal â chreu swyddi ynni glân o ansawdd da.
Dylai’r cwmni newydd hwn sbarduno dull newydd o sicrhau buddiannau o ynni adnewyddadwy sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau. Mae’r argyfwng costau byw presennol yn tanlinellu pwysigrwydd ynni yn ein cymdeithas a bydd cynnwys pobl wrth ddatblygu modelau gwahanol o rannu buddiannau yn hanfodol i lwyddiant y cwmni.
Y Rôl
Un o’r heriau allweddol ar gyfer darparu capasiti ynni adnewyddadwy newydd yw cysylltu prosiectau â’r rhwydwaith grid. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn, rydym nawr yn ceisio ehangu ein tîm drwy recriwtio arweinydd cysylltiadau grid profiadol i gyflawni rôl ein harbenigwr mewnol ar bob mater sy’n ymwneud â’r grid. Mae hon yn rôl arbenigol, sy’n gofyn am beiriannydd trydanol wedi’i hyfforddi sydd ag arbenigedd mewn cysylltiadau grid lefel dosbarthu a thrawsyrru, yn ogystal â hyfedredd technegol mewn anghenion cysylltu â’r grid megis integreiddio â’r grid, dylunio systemau, astudiaethau cysylltiadau, cydymffurfio, monitro perfformiad, a dogfennau trwyddedu.
Gan weithio gyda thîm bach o reolwyr prosiect, peiriannydd prosiect a chydlynwyr technegol, bydd deiliad y swydd yn helpu i hwyluso’r gwaith o gyflawni cyfres o brosiectau gwynt ar y tir sydd wedi’u lleoli ar draws Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru drwy ddarparu cyngor ac arweiniad ar gysylltiadau grid i Trydan.
I fod yn llwyddiannus byddwch wedi’ch addysgu hyd at lefel gradd mewn peirianneg drydanol neu’n meddu ar lefel gyfatebol o brofiad proffesiynol. Byddwch yn gallu dangos dealltwriaeth gref o brosesau, rheoliadau a safonau cysylltu â grid y DU.
Dyma gyfle gwych i rywun sy’n chwilio am her newydd i fod yn rhan o rywbeth o’r cychwyn cyntaf i greu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y rôl a gofynion y swydd yn y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr https://www.trydangwyrddcymru.cymru/swyddi/arweinydd-cysylltiadau-grid/.
Os, ar ôl i chi ddarllen y gofynion ar gyfer y rôl, eich bod yn teimlo bod gennych y cymwysterau a’r profiad perthnasol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Lleoliad
Bydd y cwmni’n gweithredu gan ddefnyddio model hybrid lle bydd staff yn treulio cyfran o’u hamser yn gweithio o gartref pan nad ydyn nhw allan ar leoliad. . Bydd cyfarfodydd a gweithgareddau ar y cyd eraill yn cael eu cynnal o bryd i’w gilydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwahanol leoliadau swyddfa ledled Cymru. Bydd Pencadlys y Cwmni ym Merthyr Tudful. Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hyblyg oherwydd bydd angen teithio o bryd i’w gilydd o gwmpas y wlad.
Yn gyfnewid am hyn, rydyn ni’n cynnig cyflog cystadleuol yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad, 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus, a chynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig.
Rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Dydyn ni ddim yn gwahaniaethu ar sail hil, crefydd, lliw, tarddiad cenedlaethol, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, statws priodasol neu anabledd. Rydyn ni’n hapus i ystyried gweithio hyblyg.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Trydan Gwyrdd Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 20 Rhagfyr 2024