PRIFYSGOL BANGOR
GWASANAETHAU CYFREITHIOL A CHYDYMFFURFIO
(Cyf: BU03531)
Cyflog: £56,021 – £64,914 y flwyddyn (Graddfa 9)
Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am gyfreithiwr neu fargyfreithiwr i ymuno â’i thîm fel Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol dros gyfnod mamolaeth am hyd at 12 mis.
Fel Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan sylweddol a strategol wrth gefnogi uchelgais y Brifysgol a chyflawni’r Cynllun Strategol.
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys rhoi cyngor cyfreithiol i’r Brifysgol a’i his-gwmnïau, a phan fo angen, ceisio cyngor gan ymgynghorwyr cyfreithiol allanol y Brifysgol, yn ogystal â rheoli tîm o arbenigwyr contractau a chydymffurfiaeth gyfreithiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn Fargyfreithiwr neu’n Gyfreithiwr Cymwysedig yng Nghymru a Lloegr gydag o leiaf 4/5 mlynedd o brofiad ar ôl cymhwyso. Bydd ganddynt brofiad o gyfraith fasnachol a chyfraith contract, yn ddelfrydol mewn cyd-destun addysg uwch neu gyda sgiliau trosglwyddadwy.
Swydd ran amser, dros dro yw hon (0.8 CALl) ac mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Byddwch yn gweithio ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Trafodir hyn ymhellach gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, mewn achosion lle na ellir defnyddio’r rhyngrwyd oherwydd anabledd, cewch ffurflenni cais papur drwy ffonio 01248 382646.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Prifysgol Bangor
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 13 Mai 2024