Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog: Technoleg Iaith

Dyddiad cau: 17 Ionawr 2025

Llywodraeth Cymru

Mae hon yn swydd lle y mae’r Gymraeg yn hanfodol.

Pwrpas y swydd: Er mwyn cefnogi un o amcanion strategaeth Cymraeg 2050 i gynyddu defnydd o’r Gymraeg erbyn 2050, mae’n bwysig bod y Gymraeg ar gael yn weledol ac yn ddiofyn. Un ffordd o wireddu hyn yw sicrhau bod gwasanaethau a thechnolegau digidol ar gael yn ddwyieithog.

Tasgau allweddol:

  • Arwain ar ddatblygu a gweithredu adnoddau technoleg dwyieithog.
  • Gweinyddu’r cyllid cysylltiedig drwy reoli a monitro grantiau technoleg.
  • Arwain ar y berthynas gyda chwmnïau a sefydliadau allanol.
  • Gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol i gynyddu faint o gynnwys digidol Cymraeg sydd ar gael.
  • Cyflwyno gwaith y tîm mewn cynadleddau a digwyddiadau.
  • Cyfrannu at dasgau eraill o fewn Is-adran Cymraeg 2050 yn ôl y galw.

Ystod cyflog neu fand cyflog: Uwch Swyddog Gweithredol £45,974 i £54,430

Union gyflog cychwynnol: £45,974

Math o gontract: 1 flwyddyn, llawn amser, ond croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser.

Math o benodiad: Benthyciad, Cyfnod Penodol, Secondiad.

Lleoliad: Ledled Cymru

Dyddiad cau: 17/01/2025, 16:00

Pam gwneud cais?

Dyma gyfle i arwain ar waith newydd a chyffrous wrth ddatblygu gwasanaethau a thechnolegau yn ddwyieithog.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfleoedd i ddatblygu sgiliau rheoli project a siarad yn gyhoeddus, er enghraifft.

Fel rhan o dîm polisi prysur mewn maes uchel ei broffil, bydd cyfleoedd i weithio gydag adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru ac yn allanol.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Llywodraeth Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
17 Ionawr 2025
Rhagor o wybodaeth
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog: Technoleg Iaith

Dyddiad cau: Ionawr 17
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Ymddiriedolwr- Llyfrgell Genedlaethol

Dyddiad cau: Ionawr 20
Y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol

Cyfieithydd Cymraeg

Dyddiad cau: Ionawr 9
Y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol

Swyddog Cymorth Cymraeg

Dyddiad cau: Ionawr 9
Cytûn

Swyddog Polisi Cytûn

Dyddiad cau: Ionawr 17
Nant Gwrtheyrn
Nant Gwrtheyrn

Cogydd

Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru, Nant Gwrtheyrn Llithfaen, Gogledd Cymru Oes ganddoch chi’r …
Cyngor Gwynedd

Cyfrifydd Grŵp – Adran Gyllid

Dyddiad cau: Ionawr 9
Arolygiaeth Gofal Cymru

Rhelowr Cyfathrebu

Dyddiad cau: Ionawr 13
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol

Dyddiad cau: Ionawr 6
Prifysgol Bangor

Aelod Annibynol o Gyngor Prifysgol Bangor

Dyddiad cau: Ionawr 3

Cylchlythyr