Llywodraeth Cymru

Ymddiriedolwr- Llyfrgell Genedlaethol

Dyddiad cau: 20 Ionawr 2025

Llywodraeth Cymru

Ymrwymiad amser: O leiaf 12 diwrnod y flwyddyn am gyfnod o bedair blynedd.  Mae hyn yn cynnwys mynychu chwech cyfarfod y flwyddyn – gellir mynychu’r rhain naill ai’n bersonol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth neu’n ddigidol os oes angen.

Cydnabyddiaeth ariannol: Sylwch mai rolau gwirfoddol yw’r rhain, ond bydd yr holl gostau rhesymol yn cael eu talu.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwneud diwylliant a threftadaeth Cymru yn hygyrch i bawb, ar gyfer dysgu, ymchwil a mwynhad.

Rydym yn chwilio am ymddiriedolwr newydd sydd yn:

  • angerddol am dreftadaeth ddiwylliannol Cymru
  • uchelgeisiol, arloesol, feddylwyr strategol
  • wedi ymrwymo i sicrhau y gall cymunedau amrywiol Cymru fwynhau’r hyn sydd gan y Llyfrgell i’w gynnig

Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sydd â gwybodaeth ac arbenigedd mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

  • Seiberddiogelwch
  • Cysylltiadau rhyngwladol
  • Sgilau archwilio
  • Gweithio mewn amgylchedd fusnes

Dylai fod gan ymgeiswyr angerdd gwirioneddol am weithgareddau’r Llyfrgell a’i datblygiad yn y dyfodol, yn ogystal â dealltwriaeth o lywodraethu a chyfrifoldebau ymddiriedolwr.  Fel ymddiriedolwr byddwch yn helpu i ddiffinio a datblygu cyfeiriad strategol y Llyfrgell a chraffu ar ei chynlluniau.  Byddwch yn gyfathrebwr hyderus, yn eiriolwr dros y Llyfrgell ac yn gallu dylanwadu’n gadarnhaol ar ystod eang o randdeiliaid. Byddwch hefyd yn gallu gweithio’n dda gydag eraill, gan gynnig cefnogaeth a her, a bod yn gyfforddus wrth gynllunio strategol ac wrth yrru newid.

Sgiliau Cymraeg: Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae’r Llyfrgell yn rhagweithiol ynglŷn â gweithio’n ddwyieithog. Darperir holl bapurau’r Bwrdd yn ddwyieithog ac mae cyfieithu ar y pryd ar gael ym mhob cyfarfod. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi ymrwymo i Gymru ddwyieithog.

Dyddiad cau: 20 Ionawr 2025.  Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.

Polisi Llywodraeth Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw hyrwyddo a chyfuno cyfleoedd cyfartal ym mhob agwedd o’u busnes, gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesawir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp, a byddwn yn sicrhau na chaiff unrhyw ymgeisydd sy’n gymwys i ymgymryd â swydd gyhoeddus ei drin yn llai ffafriol oherwydd oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn weithredol a bydd penodiadau’n cael eu gwneud ar sail teilyngdod.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Llywodraeth Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
20 Ionawr 2025
Rhagor o wybodaeth
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog: Technoleg Iaith

Dyddiad cau: Ionawr 17
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Ymddiriedolwr- Llyfrgell Genedlaethol

Dyddiad cau: Ionawr 20
Y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol

Cyfieithydd Cymraeg

Dyddiad cau: Ionawr 9
Y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol

Swyddog Cymorth Cymraeg

Dyddiad cau: Ionawr 9
Cytûn

Swyddog Polisi Cytûn

Dyddiad cau: Ionawr 17
Nant Gwrtheyrn
Nant Gwrtheyrn

Cogydd

Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru, Nant Gwrtheyrn Llithfaen, Gogledd Cymru Oes ganddoch chi’r …
Cyngor Gwynedd

Cyfrifydd Grŵp – Adran Gyllid

Dyddiad cau: Ionawr 9
Arolygiaeth Gofal Cymru

Rhelowr Cyfathrebu

Dyddiad cau: Ionawr 13
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol

Dyddiad cau: Ionawr 6
Prifysgol Bangor

Aelod Annibynol o Gyngor Prifysgol Bangor

Dyddiad cau: Ionawr 3

Cylchlythyr