e-sgol

Bwrdd Prosiect e-sgol

Dyddiad cau: 27 Ionawr 2025

Yn eisiau: Aelod Bwrdd Prosiect e-sgol

Arbenigedd delfrydol:Pennaeth/Rôl Arweinyddol mewn Ysgol Gynradd Categori Iaith T3 neu is

Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Ddydd Llun, 27 Ionawr, 2025

Mae cyfle wedi codi i ethol aelod newydd i Fwrdd Prosiect e-sgol.

Bydd yr unigolyn a etholir yn cyfrannu tuag at ddatblygiad strategol y prosiect gan sicrhau bod llais a dyheadau eu meysydd profiad yn cael eu hystyried yn llawn gan Dîm Arwain e-sgol.

Yn ddelfrydol, byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad ac arbenigedd mewn arweinyddiaeth mewn ysgol gynradd categori iaith T3 neu is ac â diddordeb yn y maes dysgu hybrid.

Byddwch yn gyfathrebwr hyderus ac rydyn ni’n annog a chroesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir a chymuned. Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion o blith cymunedau a grwpiau a dangynrychiolir ar hyn o bryd.

Mae’r rôl hon yn ddi-dâl.

Caiff aelodau Bwrdd eu hethol am gyfnod o dair blynedd. Mae modd ailethol aelod sy’n cyrraedd diwedd ei gyfnod gwasanaeth am yr eildro os yn parhau i fod yn gymwys.

Cynhelir tri chyfarfod y flwyddyn ar TEAMS, un ym mhob tymor ysgol. Ni ddisgwylir i’r ymrwymiad amser fod yn hwy nag 8 awr o fewn blwyddyn.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner Dydd, 27 Ionawr, 2025.

Os ydych chi’n rhannu ein gwerthoedd, ein delfrydau a’n dyheadau, ac yn awyddus i weithio fel rhan o Fwrdd Prosiect e-sgol, yna, cysylltwch â ni.

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Dr. Gareth Lanagan, Cadeirydd y Bwrdd (gareth.lanagan@ceredigion.gov.uk)

I wneud cais, anfonwch grynodeb o hyd at 350 gair i gefnogi eich enwebiad at Glerc y Bwrdd, Nia Jones ar nia.jones@e-sgol.cymru

Bydd enw(au) yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

Enw’r cwmni neu sefydliad
e-sgol
Dyddiad cau i ymgeiswyr
27 Ionawr 2025
Parc Cenedlaethol Eryri Newydd
Parc Cenedlaethol Eryri

Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau

Dyddiad cau: Ionawr 30
e-sgol

Bwrdd Prosiect e-sgol

Dyddiad cau: Ionawr 27
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

Dyddiad cau: Ionawr 25
Amgueddfa Cymru

Pennaeth Addysg

Dyddiad cau: Chwefror 2
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Aelodau’r Cyngor- Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ionawr 21
Creu Cymru

Hyrwyddwr Llyfr Gwyrdd y Theatr Cymru (llawrydd)

Dyddiad cau: Ionawr 20
Cyllid a Thollau

Cyfieithydd – Caerdydd / Porthmadog

Dyddiad cau: Ionawr 21
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog: Technoleg Iaith

Dyddiad cau: Ionawr 17
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Ymddiriedolwr- Llyfrgell Genedlaethol

Dyddiad cau: Ionawr 20

Cylchlythyr