Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

Dyddiad cau: 25 Ionawr 2025

Gradd H – £60,233 – £68,149 y flwyddyn

Lleoliad – 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd neu Hybrid

Parhaol – Llawn amser (34.75 awr yr wythnos).

Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn patrymau gwaith amgen yn cael eu hystyried; fodd bynnag, gall anghenion busnes osod cyfyngiadau ar y trefniadau a gynigir.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan yn nyfodol addysg yng Nghymru ar lefel genedlaethol.

Rydym yn chwilio am uwch arweinydd addysg profiadol gyda dealltwriaeth drylwyr o bolisi addysgol yng Nghymru, gyda chrebwyll gwleidyddol cryf, gyda sgiliau i rwydweithio ac i adeiladu consensws a chydag ymrwymiad i gynnal a datblygu ethos, cymeriad, gweledigaeth a chenhadaeth unigryw ein 144 o ysgolion cynradd ac uwchradd yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli dau gynghorydd cenedlaethol arbenigol ynghyd â chyllid yr adran, a bydd yn arwain ar berthnasoedd a pholisi gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yn y sector gan sicrhau bod darpariaeth addysg yr Eglwys yng Nghymru yn datblygu o ran ansawdd ac uchelgais ac yn chwarae rhan lawn, hyderus a chynyddol yn nhirwedd addysg Cymru.

Mae Cyfarwyddwr Addysg y Dalaith yn rhan o’r tîm Cenhadaeth a Strategaeth, ac yn gweithio’n agos gyda Mainc yr Esgobion, gyda rhwydwaith o Swyddogion Addysg Esgobaethol a chydag uwch arweinwyr ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, a bydd yn cyfrannu at gyngor polisi a datblygiad gwasanaeth parhaus ar draws ein holl ysgolion, sydd wrth galon cymunedau ledled y wlad.

Mae’r rôl hon yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd o ran oriau gwaith a lleoliad, gan gynnwys rhywfaint o deithio yng Nghymru a thu hwnt, ac aros dros nos yn achlysurol.

O dan Ran 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae gofyniad galwedigaethol i’r swydd hon i fod yn Gristion gweithredol.

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad DBS boddhaol.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 24 Ionawr 2025 am 10:00am

Cysylltwch â: HR@cinw.org.uk / 0292034 8200

Enw’r cwmni neu sefydliad
Yr Eglwys yng Nghymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
25 Ionawr 2025
Rhagor o wybodaeth
Parc Cenedlaethol Eryri Newydd
Parc Cenedlaethol Eryri

Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau

Dyddiad cau: Ionawr 30
e-sgol

Bwrdd Prosiect e-sgol

Dyddiad cau: Ionawr 27
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

Dyddiad cau: Ionawr 25
Amgueddfa Cymru

Pennaeth Addysg

Dyddiad cau: Chwefror 2
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Aelodau’r Cyngor- Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ionawr 21
Creu Cymru

Hyrwyddwr Llyfr Gwyrdd y Theatr Cymru (llawrydd)

Dyddiad cau: Ionawr 20
Cyllid a Thollau

Cyfieithydd – Caerdydd / Porthmadog

Dyddiad cau: Ionawr 21
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog: Technoleg Iaith

Dyddiad cau: Ionawr 17
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Ymddiriedolwr- Llyfrgell Genedlaethol

Dyddiad cau: Ionawr 20

Cylchlythyr