Swyddog Gweithredol Gweithlu Addysg x2
Lleoliad: Hyblyg / I’w drafod
£39,347 – £45,585 y flwyddyn
– AMDANOM NI –
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n arwain y sector Dysgu Cymraeg i oedolion. Nod y Ganolfan yw Creu siaradwyr Cymraeg sy’n mwynhau defnyddio’r iaith, trwy ddarparu strategaeth a gwasanaethau Dysgu Cymraeg cenedlaethol.
Mae’r Ganolfan yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chartrefu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Bellach, mae’r Ganolfan yn cefnogi’r Gweithlu Addysg i ddysgu a datblygu eu sgiliau
Cymraeg. Datblygwyd rhaglen gynhwysfawr, genedlaethol, a fydd yn ei thro yn cynnwys cyfrifoldeb dros y rhaglenni sabothol a gynigir i’r Gweithlu Addysg.
Rydym yn chwilio nawr am ddau Swyddog Gweithredol Gweithlu Addysg i ymuno â’r Ganolfan yn amser llawn ac yn barhaol, gan weithio 37 awr yr wythnos.
– Y RÔL –
Prif Bwrpas:
Dymunwn benodi dau swyddog ar gyfer cyd-lynu’r gwaith o ddarparu rhaglen gynhwysfawr, genedlaethol ar gyfer y Gweithlu Addysg ynghyd â datblygu prosiectau eraill ym maes cefnogi’r Gymraeg mewn Addysg.
Gweler y swydd ddisgrifiad am ragor o fanylion.
– AMDANOCH CHI –
- I gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch:
- Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (neu’r profiad proffesiynol cyfwerth)
- Profiad o weithio’n effeithiol fel unigolyn, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill
- Dealltwriaeth o bolisiau sy’n ymwneud â’r Gymraeg ym maes addysg
- Dealltwriaeth o egwyddorion dysgu iaith ynghyd â phrofiad o ddarparu cyngor ar ddysgu Cymraeg i’r Gweithlu Addysg
- Dealltwriaeth glir o’r Fframwaith Cymwyseddau Iaith i ymarferwyr addysg
- Profiad o weithio yn y sector addysg, neu ddealltwriaeth o’r maes
- Parodrwydd a’r gallu i deithio i fodloni gofynion sy’n ymwneud â’r swydd ac i weithio o amrywiol leoliadau pan fo angen
- Sgiliau gyfathrebu cyfrwng y Gymraeg a Saesneg rhagorol – ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau TG da gan gynnwys defnyddio pecynnau MS
- Y gallu i gyflawni gwaith yn annibynnol, yn erbyn terfynau amser tynn ac i safon uchel
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu addas ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd gyda’r gallu i argyhoeddi
- Y gallu i ddadansoddi data, a chyflwyno data mewn modd eglur
- Y gallu i ddatblygu adnoddau dysgu digidol, a’r parodrwydd i ddatblygu sgiliau creu adnoddau
- Parodrwydd a’r gallu i deithio i fodloni gofynion sy’n ymwneud â’r swydd ac i weithio o amrywiol leoliadau pan fo angen
Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:
- Profiad o weithio yn y sector Dysgu Cymraeg
- Gwybodaeth am y sector Dysgu Cymraeg
- Y gallu i ddatblygu adnoddau dysgu digidol, a’r parodrwydd i ddatblygu sgiliau creu adnoddau
– BUDDION –– 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 4 diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau Mae ein pecyn cyflog a buddion cynhwysfawr yn cynnwys:
- Cyflog cystadleuol a datblygiad cyflog
- Lwfans gwyliau blynyddol hael gan gynnwys diwrnodau cau dros y Nadolig/Flwyddyn Newydd
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USSi ddarparu buddion ar eich cyfer chi a’ch teulu
- Mynediad at blatfform buddion a llesiant, gyda dewis o fuddion sy’n addas i’ch anghenion chi, gan gynnwys cynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbyd trydan a gwasanaethau llesiant ariannol
- Cymorth iechyd a llesiant, gan gynnwys defnyddio cyfleusterau chwaraeon ar y campws am bris gostyngol, gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Cyfleoedd gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Polisïau sy’n gefnogol i deuluoedd, sy’n darparu gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cynlluniau teithio gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith.
Dyddiad cau: 5 Chwefror 2025 11:59yp
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 5 Chwefror 2025