Undeb Bedyddwyr Cymru

Uwch Swyddog Cyllid

Dyddiad cau: 17 Chwefror 2025

Undeb Bedyddwyr Cymru

A ydych yn Swyddog Cyllid profiadol sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth fel rhan o fudiad Cristnogol deinamig? Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn eich gwahodd i wneud cais am gyfle cyffrous ar gyfer Uwch Swyddog Cyllid mewn cyfnod trawsnewidiol hollbwysig.

Yn y swyddogaeth hon, byddwch yn rhan annatod o dîm ymroddedig sy’n darparu cefnogaeth ac arweiniad hanfodol i’n Cymanfaoedd a’n Heglwysi ar draws Cymru. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys dyletswyddau cadw cyfrifon ond, yn ogystal, byddwch yn chwarae rôl allweddol yn llunio strategaeth gyllid gynhwysol yn unol â’n hamcanion Cristnogol.

Lleoliad: Caerfyrddin ond gyda hyblygrwydd i weithio gartref. Disgwylir presenoldeb cyson  mewn cyfarfodydd yng Nghaerfyrddin ac mewn lleoliadau eraill.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gwbl ymroddedig i genhadaeth Undeb Bedyddwyr Cymru ac yn medru’r Gymraeg a’r Saesneg. Os ydych yn barod i rannu eich arbenigedd gyda mudiad Cristnogol a chynorthwyo i ddatblygu ein gweledigaeth ariannol, hoffwn eich annog i gyflwyno cais. Ymunwch â ni yn ein hymrwymiad i wasanaethu cymunedau ar draws Cymru.

Ymgeisiwch nawr a byddwch yn rhan o’n taith drawsnewidiol!

Cyflog: Tua £40,000- £42,000 i’w drafod ac yn gymesur â chymwysterau a phrofiad.

Oriau: 35 yr wythnos

Croesewir ceisiadau rhannu swydd

Dyddiad Cau: Dydd Llun, 10 Chwefror 2025

Dyddiad Cyfweld: Dydd Mawrth, 25 Chwefror 2025

Am wybodaeth bellach cysyllter â’r Ysgrifennydd Cyffredinol, y Parchg Judith Morris ar

0345 222 1514 neu judith@ubc.cymru

Enw’r cwmni neu sefydliad
Undeb Bedyddwyr Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
17 Chwefror 2025
Undeb Bedyddwyr Cymru
Undeb Bedyddwyr Cymru

Uwch Swyddog Cyllid

Dyddiad cau: Chwefror 17
Nant Gwrtheyrn
Nant Gwrtheyrn

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Chwefror 14
Parc Cenedlaethol Eryri Newydd
Parc Cenedlaethol Eryri

Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau

Dyddiad cau: Ionawr 30
e-sgol

Bwrdd Prosiect e-sgol

Dyddiad cau: Ionawr 27
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

Dyddiad cau: Ionawr 25
Amgueddfa Cymru

Pennaeth Addysg

Dyddiad cau: Chwefror 2
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Aelodau’r Cyngor- Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ionawr 21
Cyllid a Thollau

Cyfieithydd – Caerdydd / Porthmadog

Dyddiad cau: Ionawr 21

Cylchlythyr