Undeb Bedyddwyr Cymru

Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Dyddiad cau: 29 Ebrill 2024

A oes gennych brofiad neu ddiddordeb yn y maes eiddo?   

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i’r swydd ganlynol i weithio fel rhan o dîm ymroddedig sy’n darparu arweiniad, cefnogaeth a chymorth i’n Heglwysi:

Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Lleoliad: Caerfyrddin.

Cynigir patrwm gwaith hyblyg gyda chyfleon i weithio o adref ond disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus dreulio cyfnod o dan hyfforddiant a chyfnodau penodol yn gweithio o’r swyddfa yng Nghaerfyrddin. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar draws Cymru.

Pwrpas y Swydd: I fod yn gyfrifol am weinyddu, cynorthwyo a chyfarwyddo Eglwysi, Cymanfaoedd ac unigolion mewn perthynas â materion eiddo ac i ddelio’n uniongyrchol ag eiddo sydd yng ngofal Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar agwedd gadarnhaol tuag at amcanion eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru ynghyd â phrofiad neu ddiddordeb yn y maes eiddo ac yn medru cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cyflog: £27,485.45 – £28,438.70

Oriau: 35 awr yr wythnos

Ystyrir ceisiadau ar gyfer rhannu swydd.

Dyddiad cau: 29 Ebrill 2024

Dyddiad cyfweld: 10 Mai 2024

I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â Dr Christian Tucker-Williams ar 0345 222 1514 neu christian@ubc.cymru

Enw’r cwmni neu sefydliad
Undeb Bedyddwyr Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
29 Ebrill 2024
Prifysgol Bangor

Swyddog Project (60% CALl)

Dyddiad cau: Mai 17
Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7

Cylchlythyr