Tinopolis

Peiriannydd

Dyddiad cau: 6 Mai 2024

Heno/Prynhawn Da

Tinopolis – Llanelli

Rydym yn chwilio am Beiriannydd i ymuno â ni a gweithio gydag un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU.  Byddwch yn gweithio mewn tîm o weithwyr proffesiynol hynod dalentog a dynamig ar raglenni teledu byw ac wedi’u recordio ymlaen llaw. Mae’r gallu i gadw eich pwyll dan bwysau yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Crynodeb:

Mae Tinopolis yn un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU, ac mae iddo swyddfeydd a chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, Llundain, Glasgow, Washington DC a Los Angeles. Rydym yn darparu dros 500 o oriau o raglenni teledu byw ac wedi’u recordio ymlaen llaw bob blwyddyn o’n stiwdios yn Llanelli. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais byddwch yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig lle mae creadigrwydd, ansawdd, dibynadwyedd a rhagoriaeth dechnegol wrth wraidd popeth a wnawn.

Darperir hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus

Cyfrifoldebau allweddol ac atebolrwydd:

Trosolwg o’r Rôl:

  • Hwyluso gweithrediadau dyddiol adran beirianneg brysur gan gynnwys
    • Rheoli Lluniau
    • Gweithrediadau MCR (Prif Ystafell Reoli).
    • OB & SNG (Casglu Newyddion Lloeren)
    • Gweithrediad VT ar EVS
  • Mynd i’r afael â sialensau technegol a gweithredol mewn modd amserol a phroffesiynol
  • Gweithio ochr yn ochr â’r adrannau TG ac ôl-gynhyrchu ar sawl tasg
  • Gweithio gyda’r staff cynhyrchu mewnol i ddod o hyd i atebion technegol addas i’w gofynion
  • Ffrydio ac uwchgysylltiadau lloeren ar gyfer cyfraniadau i’n rhaglenni dyddiol a chomisiynau eraill gan ddefnyddio ein dau gerbyd SNG
  • Ymgymryd â thasgau cynnal a chadw o bob math i gynnal adran sy’n rhedeg yn esmwyth a sicrhau bod cynnwys wedi’i gynhyrchu o ansawdd technegol uchel yn cyrraedd yr awyr.

Cymwyseddau Manteisiol:

  • Sylw da i fanylion
  • Mae gallu TG yn allweddol ar gyfer y rôl hon gan fod elfen o reolaeth a/neu weithrediad cyfrifiadurol yn ganolog i bob system y byddech yn eu defnyddio
  • Mae dealltwriaeth o egwyddorion rhwydweithio yn fanteisiol ac yn ddymunol
  • Bod yn gyfathrebwr effeithiol
  • Y gallu i drefnu blaenoriaethau cynhyrchu yn gyflym o dan bwysau amser
  • Ymwybyddiaeth am fformatau ffeil video
  • Unigolyn sy’n gweithio’n galed
  • Hyblyg i oriau gwaith
  • Cadw amser yn dda
  • Mae profiad blaenorol mewn rol(au) tebyg yn ddymunol ond nid yn orfodol
  • Trwydded yrru lawn. Byddai hyfforddiant Dosbarth C1 a CPC yn fonws

Lleoliad:  Canolfan Tinopolis, Park Street, Llanelli, SA15 3YE

Cyflog:  Yn ddibynnol ar brofiad

Oriau Gweithio:  Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc

Gwyliau:  Yn ogystal â’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 25 diwrnod o wyliau dros y flwyddyn pro rata.

Pensiwn:  Bydd gennych hawl i ymuno â’r cynllun pensiwn yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol. Os ydych yn aelod o’r cynllun pensiwn bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol. Disgwylir i chi gyfrannu 5%

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau ar ffurf CV ynghyd â llythyr eglurhaol cyn ddydd Llun 6 Mai 2024 i: E-bost: swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE

Rydym yn gwmni sy’n credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid bod gan bob ymgeisydd hawl i fyw a gweithio yn y DU. Bydd angen tystiolaeth ddogfennol o gymhwysedd gan ymgeiswyr yn ystod y broses recriwtio.

Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV yn ystod y broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn dod ar gael yn y cyfnod hwn, gallem ddefnyddio’r wybodaeth i gysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau unrhyw bryd. I gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

Enw’r cwmni neu sefydliad
Tinopolis
Dyddiad cau i ymgeiswyr
6 Mai 2024
Prifysgol Bangor

Swyddog Project (60% CALl)

Dyddiad cau: Mai 17
Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7

Cylchlythyr