Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dawnus i’r swydd hon.
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg i/o’r Saesneg
Prif bwrpas y swydd hon yw:
- Gweinyddu’r drefn arholi.
- Sicrhau cyswllt cyson gyda’r aelodau drwy fwletin newyddion, bwletin swyddi a thendrau a’r cyfryngau cymdeithasol.
- Cydweithio i drefnu rhaglen o gyrsiau a gweithdai hyfforddi a datblygiad proffesiynol.
- Cydweithio i drefnu rhaglen o ddigwyddiadau cymdeithasol.
- Yn gyffredinol sicrhau gweinyddiaeth esmwyth ac effeithiol y Gymdeithas.
Lleoliad: Bangor/Hybrid
Cyflog: hyd at £28,430 + 6% cyfraniad pensiwn
Dyddiad cau 17:00 3 Mai 2024
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Gwyn Williams, y Prif Swyddog, naill ai trwy ffonio 07831 092524 neu trwy e-bost gwyn.williams@cyfieithwyr.cymru
I dderbyn pecyn ymgeisydd e-bostiwch gwyn.williams@cyfieithwyr.cymru
I gael gwybod rhagor am weithgareddau’r Gymdeithas, ewch i’r wefan www.cyfieithwyr.cymru
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 3 Mai 2024