PRIFYSGOL BANGOR
CANOLFAN BEDWYR
Cyflog: £37,099 – £44,263 y flwyddyn (Graddfa 7)
(Cyf: BU03530)
Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am addysgwr brwdfrydig a dawnus i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddysgu cyrsiau Cymraeg ar gyfer y gweithlu addysg yn siroedd y gogledd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm o diwtoriaid sy’n gyfrifol am ddatblygu a dysgu’r cyrsiau sabothol i athrawon a chynorthwywyr dosbarth yn y gogledd, yn cynnwys y cwrs ‘Cymraeg mewn Blwyddyn’. Nod y cyrsiau hyn o dan nawdd Llywodraeth Cymru yw datblygu sgiliau a chynyddu hyder y gweithlu addysg i ddysgu’r Gymraeg yn llwyddiannus yn ein hysgolion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd, cymhwyster dysgu ynghyd â phrofiad o ddysgu cyrsiau Cymraeg ar ystod o lefelau a chynllunio darpariaeth effeithiol.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol). Trwy fframwaith Gweithio’n Ddeinamig Prifysgol Bangor, bydd cyfle hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith.
Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried i gyflawni’r rôl hon ar sail rhan-amser neu rannu swydd hyd at oriau llawn amser.
Disgwylir i’r sawl a benodir ddechrau ar y gwaith ym mis Mehefin 2024 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny. Mae hon yn swydd barhaol.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hanfodol.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk. Fodd bynnag, os cewch drafferth defnyddio’r wefan oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.
Mae manylion pellach a chyfarwyddiadau ar sut i ymgeisio i’w gweld ar wefan ‘Cyfleoedd’ Prifysgol Bangor (http://jobs.bangor.ac.uk/index.php.cy).
Gallwch wneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr (01248 388054, llion.jones@bangor.ac.uk).
Sefydliad dwyieithog sy’n gweithredu Polisi Iaith cynhwysfawr ac sydd wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Prifysgol Bangor
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 7 Mai 2024