CYFLOG: £32,657
LLEOLIAD: Unrhyw un o swyddfeydd Menter a Busnes (hybrid)*. Bydd staff sy’n byw mwy na 30 milltir o’u swyddfa Menter a Busnes agosaf yn medru gweithio o adref yn barhaol o’u diwrnod cyntaf.
DYDDIAD CAU: 10.00 am; 7 Mai 2024
Rydym yn chwilio am Grëwr Cynnwys Digidol dawnus i ymuno â thîm Sgiliau ar gyfer Llwyddiant (Sgiliau Bwyd a Diod Cymru). Mae’r rhaglen (a ddarperir ar ran Llywodraeth Cymru) yn cefnogi busnesau bwyd a diod yng Nghymru, gyda ffocws ar y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu, i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a’r hyfforddiant cywir ar gyfer eu busnes a’r diwydiant ehangach. Ei hethos craidd yw datblygu gweithlu medrus a galluog sy’n rhagofyniad i gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, ac i hybu arloesedd a thwf cynaliadwy.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o brosiect sy’n cefnogi datblygu sgiliau ac yn grymuso busnesau i ffynnu mewn marchnad gystadleuol.
Fel ein Crëwr Cynnwys Digidol, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth saernïo ymgyrchoedd digidol cymhellol sy’n arddangos gwaith a chefnogaeth y prosiect, gweithgaredd y tîm ac astudiaethau achos sy’n arddangos dylanwad ein gwaith gyda chleientiaid. O ddylunio hysbysebion gweledol effeithiol, i bostiadau a fideos cyfryngau cymdeithasol fydd yn creu argraff, byddwch yn arddangos eich creadigrwydd a’ch arbenigedd digidol i ddal sylw cynulleidfaoedd a chynyddu ymwybyddiaeth brand.
Gan gydweithio’n agos â’r tîm marchnata a’r tîm prosiect ehangach, cewch gyfle i ddod â syniadau ffres i’r bwrdd a siapio presenoldeb digidol y prosiect trwy gyfathrebu â chynulleidfaoedd targed.
Mae ymuno â Menter a Busnes yn golygu bod yn rhan o amgylchedd cefnogol a chydweithredol lle bydd eich sgiliau a’ch brwdfrydedd dros ddylunio a chreu cynnwys yn cael eu gwerthfawrogi a’u meithrin. Os ydych chi’n angerddol am y diwydiant bwyd a diod ac eisiau cael effaith ystyrlon trwy greu cynnwys digidol wrth dyfu’n broffesiynol mewn diwydiant deinamig, rydym eisiau clywed gennych chi!
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Menter a Busnes
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 7 Mai 2024