![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/8/2024/04/Ofcom-logo-v2-308x190.jpg?g)
Ofcom Cymru
Caerdydd
Mae Ofcom yng Nghymru yn chwilio am swyddog polisi sy’n siarad Cymraeg i ymuno â’i dîm yng Nghaerdydd fel eu Cynghorydd Materion Rheoleiddiol newydd.
Mae’r rôl yn gyfle gwych i weithio mewn amgylchedd polisïau cyhoeddus sy’n symud yn gyflym, a byddai’n addas i rywun sydd â diddordeb dysgu mwy am bwysigrwydd y broses o lunio polisïau.
Byddwch yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein, darlledu a’r cyfryngau, rhwydweithiau a materion cyfathrebu a pholisi sbectrwm, gan hyrwyddo gwaith Ofcom yn y meysydd hyn yng Nghymru a rhannu gwybodaeth a gesglir drwy ymgysylltu allanol yn Ofcom, gan ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau fel ei fod yn gweithio’n llwyddiannus yng Nghymru ac ar draws y DU yn ehangach.
Yn cefnogi Cyfarwyddwr Cymru, byddwch hefyd yn cydweithio’n agos â Phennaeth ac Uwch Swyddog Cyswllt y tîm i gyflawni amcanion cyffredinol y tîm sy’n ymwneud ag ymgysylltu â rhanddeiliaid, canlyniadau polisïau a’r Gymraeg, gan sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hadlewyrchu wrth ddatblygu polisïau.
Bydd eich prif gyfrifoldebau’n cynnwys:
- Sicrhau bod timau polisïau Ofcom yn deall y safbwyntiau o fewn Llywodraeth Cymru, y Senedd, y diwydiant yng Nghymru a grwpiau rhanddeiliaid eraill fel bod buddiannau dinasyddion a defnyddwyr yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu’n ddigonol mewn penderfyniadau polisi.
- Cefnogi a chydlynu cysylltiadau gyda rhanddeiliaid a grwpiau uchel eu proffil yng Nghymru, i sicrhau bod cyfrifoldebau Ofcom yn cael eu deall yn llawn (yn enwedig mewn perthynas â dyletswyddau diogelwch ar-lein newydd Ofcom). Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, ASau, diwydiant a Chymru ddinesig ehangach.
- Cydlynu gwaith ar ystod eang o faterion polisi trawsbynciol yn ôl yr angen, gan weithio’n agos â chydweithwyr arbenigol yn nhîm Cymru, swyddfa Caerdydd ac ar draws Ofcom, gan helpu i ddatblygu meddwl yn ôl yr angen ac sy’n hawdd ei ddeall.
Yn Ofcom, mae amrywiaeth yn hollbwysig. Mae’r corff wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol, gan hyrwyddo amrywiaeth o bob math. Mae’r prosesau recriwtio yn hygyrch i bawb, ac mae Ofcom yn cefnogi patrymau gweithio hyblyg. Ymunwch ag Ofcom a gwnewch wahaniaeth mewn gwasanaethau cyfathrebu i bawb.
I ymgeisio, cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol i applications@goodsonthomas.com.
Dyddiad cau: 12pm, 26 Gorffennaf 2024
Dyddiad y cyfweliad: I’w gadarnhau
Bydd pob cais yn cael ei gydnabod.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Ofcom Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 26 Gorffennaf 2024