Cyfle i weithio gyda Menter Iaith Conwy
Ar dan dros y Gymraeg ? Hoffech chi gyfle i weithio gyda sefydliad blaengar sy’n hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn Sir Conwy?
Swyddog Maes Ardal Wledig (Dyffryn Conwy) cyfnod mamolaeth.
Fel rhan o dîm swyddogion maes y Fenter byddwch yn gyfrifol am arwain gwaith maes Menter Iaith Conwy yn ardal Dyffryn Conwy. Amcan y gwaith yw creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio efo plant a phobl ifanc a phwyllgorau ardal (yn cynnwys Llanast Llanrwst a Phenmachno) o fewn y diriogaeth.
Cyflog: rhwng £24,702 i £25,119 (pro rata) a phensiwn.
Oriau: Rhwng 14 a 21 awr yr wythnos( i’w drafod efo’r ymgeisydd llwyddiannus)
Gwylia: Cychwyn ar 24 dydd. Dydd Gŵyl Dewi a rhwng Nadolig a Chalan yn ychwanegol.
Lleoliad: Swyddfa Menter Iaith Conwy, Llanrwst a gweithio hyblyg o adref.
Am fanylion a disgrifiad swydd neu sgwrs cysylltwch efo meirion@miconwy.cymru
Neu ewch i’r wefan https://miconwy.cymru
Dyddiad Cau 25ain Tachwedd. Cais drwy lythyr a CV.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Menter Iaith Conwy
- Disgrifiad swydd
- Swydd-Ddisgrifiad-Swyddog.docx
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 25 Tachwedd 2024