Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Dyddiad cau: 1 Rhagfyr 2024

Rydym yn ehangu ein tîm datblygu yn yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ac yn bwriadu recriwtio is-ddatblygwr meddalwedd newydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o beirianwyr meddalwedd ac arbenigwyr iaith, a bydd yn gweithio i ddatblygu ac adolygu rhyngwynebau ar gyfer rhaglenni cyfrifiadurol, gwefannau ac apiau sy’n ymgorffori technolegau testun, lleferydd a chyfieithu ar gyfer y Gymraeg a ieithoedd eraill sydd â llai o adnoddau.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd berthnasol neu gyfatebol, a bydd disgwyl i’r ymgeisydd rhannu portffolio o waith perthnasol gyda ni.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn anffurfiol yn y Gymraeg o fewn y tîm yn hanfodol, abyddwn yn cynnig cymorth i ymgeiswyr llwyddiannus sy’n ceisio gwella eu sgiliau Cymraeg.

Mae’r swydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr (sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Gymraeg y Brifysgol) ym Mangor. Drwy fframwaith Gweithio Dynamig Prifysgol Bangor, bydd cyfle hefyd i dreulio rhywfaint o amser yn gweithio o bell er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer cyflawni’r rôl hon ar sail rhan-amser neu drwy rannu swydd.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd ym mis Ionawr 2025 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Bydd y cytundeb cychwynnol ar gyfer y rôl hon yn para tan ddiwedd mis Gorffennaf 2026. Bydd ymestyn hyd y swydd y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw yn ddibynnol ar sicrhau cyllid pellach.

Dim ond trwy ein gwefan recriwtio ar-lein, swyddi.bangor.ac.uk, y derbynnir ceisiadau. Fodd bynnag, mewn achosion o faterion mynediad oherwydd anabledd, mae ffurflenni cais papur ar gael trwy ffonio 01248 383865.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol drwy gysylltu â Gruffudd Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith (01248 383559, g.prys@bangor.ac.uk).

Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad dwyieithog sy’n gweithredu polisi iaith cynhwysfawr.

Wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Prifysgol Bangor
Math o swydd
Llawn amser
Cyflog
£29,605 – £39,347
Hyd cytundeb
Contract tymor penodol
Rhif ffôn am fwy o wybodaeth
01248 383559
Ebost
g.prys@bangor.ac.uk
Dyddiad cau i ymgeiswyr
1 Rhagfyr 2024
Rhagor o wybodaeth
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr