Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: 24 Tachwedd 2024

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Ref: 375688

Safle: Cardiff, Carmarthen, Swansea, Wrexham

Cyflog: £29,494

Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau gweithio hyblyg, lwfans gwyliau hael sy’n dechrau ar 25 diwrnod ac yn codi i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth, a Phensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniad cyfartalog gan y cyflogwr o 28.97%.

 

Rydym yn chwilio am bobl dalentog sy’n awyddus i gyfrannu at wasanaethau cyhoeddus hanfodol, a’n cynorthwyo i roi cymorth i’r llywodraeth ac awdurdodau lleol gyda budd-daliadau a threthiant. Bydd eich sgiliau a’ch profiad yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol sydd wrth wraidd budd y cyhoedd.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio yn yr Uned Dreth Gyngor a gellir eu defnyddio i weithio ar draws ystod o dasgau gweithiwr achos. Fel Gweithiwr Achos, byddwch yn archwilio gwybodaeth gymhleth ac yn gwneud dadansoddiad manwl i wneud penderfyniadau cywir a gwybodus. Mae ein gweithwyr achos yn deall ac yn cymhwyso technoleg i sicrhau canlyniadau busnes a phersonol effeithlon ac effeithiol.

Mae arolygiadau yn rhan allweddol o rôl gweithiwr achos. Bydd y rôl yn golygu eich bod yn teithio i eiddo domestig ac annomestig a allai fod yng Nghanol y Ddinas neu mewn lleoliadau mwy gwledig a dyna pam fod angen trwydded yrru yn hanfodol.

Rydym yn cynnig llu o gyfleoedd dysgu â datblygu i gefnogi’ch datblygiad gyrfaol. Mae’n bosibl y bydd cyfle i wneud cais am un o’n cynlluniau cymwysterau eiddo tra yn y swydd

Pwynt cyswllt ar gyfer ymgeiswyr

Cyswllt swydd :

  • Enw : Tammy Harmes.
  • Ebost : Tammy.Harmes@voa.gov.uk

Tîm recriwtio

  • Ebost : VOARecruitment.grs@cabinetoffice.gov.uk

 

Enw’r cwmni neu sefydliad
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Dyddiad cau i ymgeiswyr
24 Tachwedd 2024
Rhagor o wybodaeth
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr