Mae 4 Llan yn Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol a sefydlwyd i wasanaethu cymunedau Llanarth, Llanllwchaearn, Llandysiliogogo, Llangrannog a’r cyffiniau yng nghanolbarth Ceredigion. Sefydlwyd 4 Llan mewn ymateb i’r argyfwng tai lleol, gyda’r bwriad o ymrymuso cymunedau gwledig yr ardal i ganfod atebion adeiladol i’r heriau economaidd a chymdeithasol sy’n eu hwynebu.
Mae YTC 4 Llan yn gwahodd ceisiadau gan unigolion addas i ymgymryd â’r rôl o hwyluso gweithredu prosiectau’r corff newydd hwn, gyda phwyslais ar ddatblygu a hyrwyddo agweddau ar weledigaeth y corff ynghylch ynni adnewyddadwy a chadwraeth ynni.
Cytundebir ar gyfer 50 dydd gwaith dros gyfnod o flwyddyn ar ffi o £9,375 a threuliau yn ychwanegol. Mae’r gallu i weithio’n effeithiol drwy’r Gymraeg a’r Saesneg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Am fanylion pellach cysylltwch â Gareth Ioan, Ysgrifennydd YTC 4 Llan, drwy ffonio 07966 936297 neu e-bostio 4llan2023@gmail.com.
Dyddiad cau: 10yb, dydd Gwener, 13 Rhagfyr 2024
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- YTC 4 Llan CLT
- Disgrifiad swydd
- Hysbyseb-Swydd-4-Llan-Cymraeg67-1.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 13 Rhagfyr 2024