Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: 16 Rhagfyr 2024

Heno/Prynhawn Da

Mae swydd ymchwilydd yn gam cyntaf o fewn y diwydiant teledu. Dyma swydd sy’n gyflwyniad i’r broses gynhyrchu ac yn sylfaen dda ar gyfer unrhyw un sydd a’r uchelgais i fynd ymhellach.

Fel aelod o dîm o ymchwilwyr, fe fyddwch yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau i ddod o hyd i eitemau, stwdio a rhai i’w ffilmio ar leoliad, ar gyfer Prynhawn Da a Heno. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Tîm Cynhyrchu, fe fyddwch yn gyfrifol am drefnu lleoliad, cyfranwyr, criw ffilmio a llunio nodiadau ar gyfer y cyflwynydd/gohebydd ynghyd ag unrhyw fater arall syddangen ei drefnu. Yn dilyn hyfforddiant, fe fyddwch yn llunio drafft cyntaf o asesiad risg ar gyfer unrhyw ffilmio.

Mae Prynhawn Da a Heno yn rhaglenni byw dyddiol, felly byddwch yn gweithio dan bwysedd amser yn aml er mwyn sicrhau fod eitemau’n cyrraedd y sgrin mewn pryd. Mae Heno yn darlledu’n fyw o 7:00yh tan 7:30yh ac mae disgwyl i un ymchwilydd weithio tan ddiwedd y darllediad bob nos. Ar adegau gall eitemau hwyr olygu fod angen gweithio hyd at amser darlledu’r rhaglen.

Fel rhan o’ch gwaith fe fyddwch yn cynorthwyo ar lawr y stwdio, trefnu/prynu defnyddiau ar gyfer eitemau stwdio, cynorthwyo gyda pheiriant Autocue yn ystod ymarfer a darlledu neu, gyda chriw camera, yn holi barn pobl ar y stryd.

Mae Tinopolis hefyd yn cynhyrchu nifer o raglenni eraill (Pawb a’i Farn, Sgwrs dan y lloer, Carol yr Ŵyl ac

yn y blaen) ac o dro i dro fe fyddwch hefyd yn gweithio ar y rhaglenni hyn.

 

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE

Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau: 16eg o Ragfyr 2024

 

Manylion pellach

Oriau Gwaith:            

Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylirhyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau:                     

Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o

wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn:                    

Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig idelerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir ichi gyfrannu 5%.

Ceisiadau:                  

Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 16eg o Ragfyr 2024, at Swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc,Llanelli, SA15 3YE

 

Yn uno â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, raid I bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio

Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am Swydd yn Tinopolis: Wrth wneud cais am Swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar feil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn inni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler

http.www.tinopolis.com/privacy-notice

 

Enw’r cwmni neu sefydliad
Tinopolis
Dyddiad cau i ymgeiswyr
16 Rhagfyr 2024
Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr