Cwmni ynni adnewyddadwy cyhoeddus – Trydan Gwyrdd Cymru – sy’n is eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru.
Swydd: Rheolwr Prosiect – 37 awr yr wythnos
Dyddiad cau: Hanner dydd 20 / 12 / 2024
Cyfeirnod: TGCPM
Amdanom ni
Sefydlwyd Trydan Gwyrdd Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2023. Ei bwrpas yw rhoi sero net a chymunedau Cymru wrth wraidd y newid sydd ei angen i fynd i’r afael â her enfawr newid hinsawdd. Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn cyflymu’r broses o gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws ystâd gyhoeddus Cymru, yn bennaf trwy dechnolegau ynni gwynt ar y tir a solar ffotofoltaig. Ein nod yw cael mwy nag un gigawat o ynni glân dan berchnogaeth leol, a gynhyrchir yn lleol erbyn 2040. Mae gennym gyfle gwirioneddol yma i gynhyrchu incwm a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i wella bywydau pobl yng Nghymru yn ogystal â chreu swyddi ynni glân o ansawdd da.
Dylai’r cwmni newydd hwn sbarduno dull newydd o sicrhau buddiannau o ynni adnewyddadwy sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau. Mae’r argyfwng costau byw presennol yn tanlinellu pwysigrwydd ynni yn ein cymdeithas a bydd cynnwys pobl wrth ddatblygu modelau gwahanol o rannu buddiannau yn hanfodol i lwyddiant y cwmni.
Y Rôl
Rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Prosiect. Bydd y rôl yn adrodd i’r Cyfarwyddwr Datblygu a bydd yn gweithio’n agos gyda thîm bach o Reolwyr Prosiect, cydweithwyr peirianneg a thechnegol i gyflawni cyfres o brosiectau ynni adnewyddadwy (gwynt ar y tir yn bennaf ar draws Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru), o’r cychwyn cyntaf, trwy’r cyfnod datblygu nes trosglwyddo i’r tîm adeiladu. Bydd disgwyl i chi hefyd weithio’n agos ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys cymunedau lleol, ymgyngoreion statudol, awdurdodau cynllunio lleol a grwpiau’r diwydiant.
Dyma gyfle gwych i rywun sy’n chwilio am her newydd i fod yn rhan o rywbeth o’r cychwyn cyntaf i greu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb.
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y rôl a gofynion y swydd yn y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyrhttps://www.trydangwyrddcymru.cymru/swyddi/rheolowr-prosiect/
Os, ar ôl i chi ddarllen y gofynion ar gyfer y rôl, eich bod yn teimlo bod gennych y cymwysterau a’r profiad perthnasol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Lleoliad
Bydd y cwmni’n gweithredu gan ddefnyddio model hybrid lle bydd staff yn treulio cyfran o’u hamser yn gweithio o gartref pan nad ydyn nhw allan ar leoliad. Bydd cyfarfodydd a gweithgareddau ar y cyd eraill yn cael eu cynnal o bryd i’w gilydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwahanol leoliadau swyddfa ledled Cymru. Mae Pencadlys y Cwmni ym Merthyr Tudful. Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hyblyg oherwydd bydd angen teithio o gwmpas y wlad o bryd i’w gilydd.
Yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig cyflog cystadleuol yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad, 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus, a chynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig.
Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Rydym yn annog ceisiadau gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Nid ydym yn gwahaniaethu ar sail hil, crefydd, lliw, tarddiad cenedlaethol, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, statws priodasol neu anabledd. Rydym yn hapus i ystyried gweithio hyblyg.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Trydan Gwyrdd Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 20 Rhagfyr 2024