Yr Eglwys yng Nghymru

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: 10 Ionawr 2025

Gradd – C (£28,610 – £32,370 y flwyddyn)

 

Lleoliad – Swyddfa Archesgob Cymru, Bangor / Ystyrir trefniadau gweithio hybrid.

Parhaol – Llawn-amser (34.75 awr yr wythnos).

Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn patrymau gwaith amgen yn cael eu hystyried; Fodd bynnag, gall anghenion busnes osod cyfyngiadau ar y trefniadau a gynigir.

 

Mae Archesgob Cymru yn ffigwr cyhoeddus amlwg gyda phroffil cryf yn y cyfryngau. Rydym yn ceisio cefnogi ei rôl gyda mwy o adnoddau digidol. Dyma gyfle cyffrous i berson creadigol ac ymroddedig ymuno â gweinidogaeth egnïol ac amrywiol. Bydd y rôl yn cynnwys teithio a pheth gwaith dros nos ac ar benwythnosau. Mae’r gallu i weithio yn Gymraeg yn hanfodol.

 

Fel rhan o Dîm Cyfathrebu mwy, byddech yn gweithio’n agos gyda thîm yr Archesgob er mwyn:

  • Hyrwyddo gwaith yr Archesgob drwy raglen ragweithiol o gynhyrchu amlgyfrwng.
  • Darparu cymorth cyfathrebu ar gyfer ymweliadau’r Archesgob i leoliadau i ffwrdd o Fangor
  • Datblygu cyfleoedd ar gyfer cyfraniadau ysgrifenedig i’r cyfryngau traddodiadol a digidol.
  • Sganio’r gorwel ar gyfer achlysuron lle dylai’r Archesgob gynnig llais rhagweithiol.
  • Datblygu cyfleoedd ar gyfer cyfraniadau i raglenni darlledu.
  • Cyfrannu at gyfathrebu ar waith eciwmenaidd a rhyng-ffydd

 

Yn ddelfrydol, byddwch chi’n Gynhyrchydd Cynnwys Digidol profiadol (neu debyg) hyfedr mewn meddalwedd fel Premiere Pro, Final Cut Pro, Photoshop, Illustrator, InDesign ac After Effects ac yn brofiadol gyda SEO, tueddiadau cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol.  Bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol ac o hanes, diwylliant ac amrywiaeth Cymru. 

Bydd angen sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, meddylfryd creadigol, ac angerdd am adrodd straeon, ynghyd â’r gallu i aml-dasgio. i gwrdd â therfynau amser, i weithio ar y cyd ac i  feistroli manylion.  Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS boddhaol.

Dyddiad cau: 10 Ionawr 2025 at 10:00yb

Cysylltiad: HR@cinw.org.uk / 0292034 8200

Am ragor o wybodaeth, ewch i:

https:// www.churchinwales.org.uk/cy/about-us/work-us/digital-content-producer/

Enw’r cwmni neu sefydliad
Yr Eglwys yng Nghymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
10 Ionawr 2025
Rhagor o wybodaeth
Yr Eglwys yng Nghymru

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Ionawr 10
Trydan Gwyrdd Cymru

Arweinydd Cysylltiadau Grid

Dyddiad cau: Rhagfyr 20
Trydan Gwyrdd Cymru

Rheolwr Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 20
Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1

Cylchlythyr