Prifysgol Bangor

Aelod Annibynol o Gyngor Prifysgol Bangor

Dyddiad cau: 3 Ionawr 2025

Wrth i Brifysgol Bangor ddathlu 140 mlynedd o ragoriaeth academaidd ac ymchwil sy’n arwain y byd, mae’r Brifysgol yn chwilio am ddau unigolyn eithriadol, sydd â diddordeb a dealltwriaeth o’r materion sy’n wynebu addysg uwch i ymuno a’r Cyngor fel Aelodau Annibynnol. Mae aelodau Cyngor y Brifysgol yn chwarae rhan allweddol wrth yrru’r sefydliad yn ei flaen, gan lunio ei gyfeiriad strategol a’i genhadaeth, sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu a’i reoli’n effeithiol a gweithredu fel Llysgenhadon i’r sefydliad.

 

Mae’r sector addysg uwch yn wynebu tirwedd gynyddol heriol. Fodd bynnag, mae’n amser cyffrous i ymuno â Chyngor y Brifysgol, gydag agoriad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn dod ag addysg feddygol i Ogledd Cymru am y tro cyntaf.

 

Bydd yr Aelodau Annibynnol newydd yn arweinwyr strategol profiadol, gydag arbenigedd yn y gyfraith, eiddo, busnes, gwleidyddiaeth a/neu ddigidol. Dylai fod gan ymgeiswyr ymrwymiad cryf i addysg uwch, ac i lwyddiant myfyrwyr a staff y Brifysgol.

 

Mae’r Brifysgol yn gyflogwr cyfle cyfartal, ac yn arbennig o awyddus i annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dod o ystod amrywiol o gefndiroedd. Mae ar y Brifysgol eisiau sicrhau bod y Cyngor yn adlewyrchu amrywiaeth ei chymuned ac mae wedi ymrwymo i wella cydbwysedd rhwng y rhywiau ar y Cyngor, cyfran yr aelodau annibynnol sy’n gallu siarad Cymraeg, ac aelodaeth o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

 

Mae aelodau annibynnol yn gwasanaethu am dymor o bedair blynedd a bydd disgwyl iddynt wasanaethu ar un neu fwy o’r pwyllgorau sy’n cefnogi gwaith y Cyngor. Bydd y rôl felly yn gofyn am ymrwymiad amser o tua 1 i 2 ddiwrnod y mis. Mae’r rôl yn ddi-dâl, fodd bynnag ad-delir treuliau rhesymol.

 

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl yw 5 p.m. Dydd Gwener, 3 Ionawr 2025 a bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Gyngor y Brifysgol ar argymhelliad Panel Dethol a gynullir gan y Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu.

 

Cynhelir y cyfweliadau ar gyfer yr Aelodau Annibynnol ym Mhrifysgol Bangor ar 27 Ionawr 2025.

 

Am ddisgrifiad rôl a manyleb person, cysylltwch â Karen Williams karen.williams@bangor.ac.uk.

 

Dylid anfon ceisiadau, gan gynnwys llythyr sy’n cyfeirio at y meini prawf yn y disgrifiad rôl a manyleb y person (dim mwy na 2 ochr A4) ynghyd â CV manwl at Karen Williams karen.williams@bangor.ac.uk. Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch ag Ysgrifennydd y Brifysgol, Gwenan Hine gwenan.hine@bangor.ac.uk.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Prifysgol Bangor
Dyddiad cau i ymgeiswyr
3 Ionawr 2025
Rhagor o wybodaeth
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol

Dyddiad cau: Ionawr 6
Prifysgol Bangor

Aelod Annibynol o Gyngor Prifysgol Bangor

Dyddiad cau: Ionawr 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Ionawr 10
Trydan Gwyrdd Cymru
Trydan Gwyrdd Cymru

Arweinydd Cysylltiadau Grid

Dyddiad cau: Rhagfyr 20
Trydan Gwyrdd Cymru
Trydan Gwyrdd Cymru

Rheolwr Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 20
Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13

Cylchlythyr