Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol

Dyddiad cau: 6 Ionawr 2025

Campws Caerfyrddin neu Abertawe (gweithio hybrid gan deithio i leoliadau eraill yn ôl yr angen)

£29,605 – £32,982 y flwyddyn

AMDANOM NI –

AMDANOM NI –

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn olrhain ei threftadaeth yn ôl i’r brifysgol gyntaf yng Nghymru, gan dderbyn ei Siarter Frenhinol yn 1828 ac mae’n fraint cael Ei Fawrhydi’r Brenin Charles III yn Noddwr Brenhinol arni.

Bellach mae PCYDDS yn addysgu dros 16,000 o fyfyrwyr ar draws ei chwe champws yn y DU; pedwar yng Nghymru a dau yn Lloegr. Mae ganddi bartneriaethau addysgol rhyngwladol hirdymor yn Ewrop, Tsieina, Malaysia, UDA a mannau eraill.

Ein nod yw trawsnewid addysg, ac felly trawsnewid bywydau’r unigolion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.Rydym eisoes wedi’n cydnabod am ddarparu profiad myfyrwyr rhagorol:

  • 1af yng Nghymru a chydradd 3ydd yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Times Higher Education, Gorffennaf 2024)
  • 1af yng Nghymru am 7 pwnc ac yn y 10 Uchaf yn y DU am 3 phwnc (Guardian University League Table 2024)

Daw ein llwyddiant yn sgil ymrwymiad, sgiliau, gwybodaeth, a gallu ein pobl yn gweithio gyda’i gilydd. Rydym nawr yn adeiladu ar y diwylliant a darpariaeth gadarn hon i ddod yn ddarparwr blaenllaw ar gyfer addysg uwch hygyrch.

Rydym yn chwilio nawr am Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol i ymuno â champws Caerfyrddin neu Abertawe yn amser llawn a pharhaol gan weithio 37 awr yr wythnos.

Y RÔL –

Prif rôl y Swyddog Marchnata yw cynorthwyo’r tîm Marchnata gyda’r gwaith o gynllunio, trefnu a darparu gweithgarwch marchnata a recriwtio dan arweiniad brandiau sy’n denu darpar fyfyrwyr i astudio gyda’r Brifysgol. Bydd y rôl yn canolbwyntio’n bennaf ar greu ac amserlennu gwahanol fathau o gynnwys sy’n annog ymgysylltiad cadarnhaol â brand y Brifysgol ar draws ei gyfres o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol..  Y Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol fydd yn rheoli’r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a bydd disgwyl iddo/i feithrin perthynas agos â rheolwyr a chydweithwyr ar draws Y Drindod Dewi Sant i sicrhau dull rhagweithiol wedi’i gynllunio ar gyfer pob un o weithgareddau cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol.

Bydd y Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol yn gyfrifol am oruchwylio grŵp o Grewyr Cynnwys.

Lleolir Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol yn bennaf naill ai yng Nghaerfyrddin neu Abertawe. Fodd bynnag, gall fod yn ofynnol i’r deiliad swydd ymweld hefyd â champysau eraill PCYDDS i ddarparu cyngor a chyfarwyddyd ar gyfer cydweithwyr.

AMDANOCH CHI –

I’ch ystyried yn Swyddog Marchnata, bydd angen:

  • Cymhwyster lefel gradd neu gyfwerth.Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd marchnata.
  • Profiad amlwg o greu cynnwys ar gyfer cyfrifon corfforaethol ar y cyfryngau cymdeithasol yn llwyddiannus.
  • Profiad amlwg o gynllunio, gweithredu, a gwerthuso ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Tystiolaeth o allu i flaenoriaethu’n effeithiol a rheoli prosiectau lluosog ar yr un pryd.
  • Gallu i roi sylw i fanylion
  • Profiad o reoli perthnasoedd â nifer o randdeiliaid.
  • Gallu gweithio’n rhan o dîm, mewn partneriaeth ag eraill, a heb oruchwyliaeth.
  • Sgiliau ysgrifennu copi cryf, cydnabod pwysigrwydd ton y llais, gyda phrofiad o ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
  • Sgiliau TG ardderchog.
  • Gallu i gyfathrebu ar lefel uchel drwy gyfrwng y Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig. Y gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar Lefel C1 CEFR 3.3 neu uwch (CEFR yw’r Cyfeirnod Fframwaith Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd) Mae hyn yn golygu y gallwch chi ddeall ystod eang o destunau, a chydnabod ystyr ymhlyg.Gallwch fynegi eich hun yn rhugl ac yn ddigymell gan ddefnyddio iaith yn hyblyg ac effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol.. Yn gallu cynhyrchu testun clir, wedi’i strwythuro’n dda, manwl ar ystod o bynciau.
  • Gwybodaeth am arferion cyfathrebu effeithiol a phrofiad o ddrafftio deunydd marchnata dwyieithog deniadol.
  • Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol a dangos hynny.
  • Yn gallu ac yn barod i weithio’n hyblyg, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau eraill pan fo angen

 

Byddai hefyd yn ddymunol bod gennych chi:

  • Gymhwyster proffesiynol ym maes marchnata neu faes cysylltiedig arall.
  • Aelodaeth o gymdeithas broffesiynol berthnasol e.e. Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM)
  • Profiad blaenorol o weithio ym maes Addysg Uwch.
  • Profiad y gellir ei ddangos o reoli prosiectau.
  • Profiad o reoli cyllideb.

BUDDION –

28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 4 o ddiwrnodau cau’r BrifysgolMae ein gweithwyr yn cael mynediad i becyn cyflog a buddion cynhwysfawr mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad gwerthfawr, gan gynnwys:

  • Cyflog cystadleuol a datblygiad cyflog
  • Lwfans gwyliau blynyddol hael gan gynnwys diwrnodau cau dros y Nadolig/Blwyddyn Newydd
  • Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion ar eich cyfer chi a’ch teulu
  • Mynediad at blatfform buddion a llesiant, gyda dewis o fuddion sy’n addas i’ch anghenion chi, gan gynnwys cynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbyd trydan a gwasanaethau llesiant ariannol
  • Cymorth iechyd a llesiant, gan gynnwys defnyddio cyfleusterau chwaraeon ar y campws am bris gostyngol, gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
  • Cyfleoedd gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
  • Polisïau sy’n gefnogol i deuluoedd, sy’n darparu gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
  • Cynlluniau teithio gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith.

Felly, os teimlwch chi y gallech chi ffynnu a chael effaith yn Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol, gwnewch gais trwy’r botwm a ddangosir.Sylwer nad yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. O’r herwydd, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i’r cwestiynau cais yn unig ac, yn enwedig, eich Datganiad Ategol.

Sylwer caiff eich iaith am ohebiaeth ei phennu yn ôl yr iaith y gwnewch gais ynddi.  I wneud cais yn y Gymraeg, cliciwch ‘Cymraeg’ yng nghornel dde uchaf y sgrin. 

Dyddiad cau: 6 Ionawr 2025, 11:59pm

Enw’r cwmni neu sefydliad
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Dyddiad cau i ymgeiswyr
6 Ionawr 2025
Rhagor o wybodaeth
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol

Dyddiad cau: Ionawr 6
Prifysgol Bangor

Aelod Annibynol o Gyngor Prifysgol Bangor

Dyddiad cau: Ionawr 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Ionawr 10
Trydan Gwyrdd Cymru
Trydan Gwyrdd Cymru

Arweinydd Cysylltiadau Grid

Dyddiad cau: Rhagfyr 20
Trydan Gwyrdd Cymru
Trydan Gwyrdd Cymru

Rheolwr Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 20
Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13

Cylchlythyr