Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru, Nant Gwrtheyrn
Llithfaen, Gogledd Cymru
Oes ganddoch chi’r angerdd a’r brwdfrydedd i baratoi a darparu prydau bwyd o’r ansawdd gorau mewn lleoliad arbennig iawn yng Ngogledd Orllewin Cymru?
Mae tîm Arlwyo Nant Gwrtheyrn yn chwilio am Gogydd profiadol ac uchelgeisiol, sydd wedi arfer cynnal y safonnau gorau posib yn y maes arlwyo.
Beth am ymuno â’r tîm yng Nghanolfan Iaith a Threftadaeth Cymru, Nant Gwrtheyrn – canolfan sydd yn darparu cyrsiau iaith Gymraeg, yn cynnal priodasau a chynadleddau ac yn denu ymwelwyr dyddiol i fwynhau’r lleoliad, y tirwedd a hanes yr ardal. Mae’r tîm arlwyo yn paratoi bwyd i holl ddefnyddwyr y Nant.
Beth sydd ganddoch chi i’w gynnig?
‘Rydan ni’n gobeithio y bydd ganddoch chi’r gallu i weithio dan bwysau mewn cegin brysur, yr awydd i weithio gyda thîm sy’n darparu amrywiaeth eang o brydau a’r angerdd i gynnig y gwasanaeth arlwyo gorau bosib i’n cwsmeriaid – gyda gwên ar eich wyneb.
Beth sydd ganddom ni i’w gynnig?
Cyflog cystadleuol a thelerau gwaith teg, cynllun pensiwn, llety os oes angen – a’r pleser pur o weithio mewn lleoliad trawiadol ac arbennig iawn gyda thîm llawn talent.
I ymgeisio neu i holi am rhagor o wybodaeth cysylltwch â Shan Banfield, Arweinydd Tîm Arlwyo ar:
arlwyo@nantgwrtheyrn.org neu 01758 719578
Dyddiad Cau:- Cyn gynted a phosib
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Nant Gwrtheyrn
- Disgrifiad swydd
- Nant-Gwrtheyrn-Hysbyseb-cogydd-3.pdf