Swyddog Polisi Cytûn: Eglwysi ynghyd yng Nghymru
21 awr yr wythnos
£24,457
Oes gennych ddiddordeb a phrofiad ym maes polisi yng Nghymru? Oes gennych angerdd dros gefnogi tystiolaeth yr Eglwys?
Mae Cytûn: Eglwysi ynghyd yng Nghymru yn awyddus i benodi Swyddog Polisi.
Pwrpas y swydd yw hybu gwaith yr eglwysi trwy sicrhau cyfathrebu cyson ac amserol rhwng yr eglwysi â Llywodraeth, Senedd a chyrff cyhoeddus Cymru, a chynorthwyo eglwysi a mudiadau Cristnogol i gymryd rhan lawn yn y maes cyhoeddus yng Nghymru.
Am rhagor o wybodaeth gan gynnwys swydd ddisgrifiad llawn ebostiwch post@cytun.cymru
Dyddiad cau: 5pm 17 Ionawr 2025
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cytûn
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 17 Ionawr 2025