The Electoral Commission

Swyddog Cymorth Cymraeg

Dyddiad cau: 9 Ionawr 2025

The Electoral Commission

Teitl swydd: Swyddog Cymorth Cymraeg

Cyflog cychwynnol: £31,676 y flwyddyn

Llawn amser, parhaol: Swyddfa Caerdydd/yn y cartref (hybrid)

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod â’ch profiad i sefydliad sy’n chwarae rhan hanfodol yn y broses ddemocrataidd?

Pwy ydym ni

Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.

Mae’r tîm yng Nghymru yn canolbwyntio ar bob maes gwaith sy’n gysylltiedig â digwyddiadau etholiadol sy’n cael effaith ar Gymru ac sy’n cael eu cynnal yno. Mae hyn yn cynnwys canfasio cartrefi blynyddol etholwyr, etholiadau’r Senedd, etholiadau Senedd y DU, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac etholiadau llywodraeth leol.

Mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd statudol i gydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg, a grëwyd yn unol â Mesur y Gymraeg (2011). Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor, yn ein busnes o ddydd i ddydd, ac wrth ddarparu adnoddau a gwasanaethau, y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal.

Am pwy ydym ni’n chwilio

Byddwch yn –

  • ddwyieithog ac yn hapus i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • meddu ar brofiad o ddefnyddio offer digidol a rhaglenni meddalwedd fel Microsoft Sharepoint a systemau rheoli cynnwys gwefannau.
  • drefnus ac effeithlon.
  • gyffyrddus yn gweithio o fewn terfynau amser ac yn darparu gwaith yn amserol ar bob adeg, gan gynnwys yn ystod cyfnodau dan bwysau etholiad.

Y rôl

Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein Huned Gymraeg fach. Byddwch yn:

  • Weinyddwr allweddol o fewn y tîm cyfieithu, gan fonitro’r ceisiadau cyfieithu, dyrannu cyfieithiadau i aelodau’r tîm a chysylltu â chwsmeriaid
  • Cynorthwyo’r Tîm Cyfieithu drwy gyfieithu a phrawfddarllen darnau bach o waith yn unol â Safonau Iaith Gymraeg a chanllawiau arddull corfforaethol y Comisiwn, gan weithio tuag at amserlenni a gytunwyd a defnyddio meddalwedd cyfieithu
  • Cefnogi a chynghori cydweithwyr ar draws y Comisiwn ar ddatblygu cynnwys Cymraeg, gan helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau statudol a nodir yn y Safonau Iaith Gymraeg
  • Mewnbynnu deunydd Cymraeg ar ein gwefan gan ddefnyddio meddalwedd rheoli cynnwys
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ar draws y Comisiwn, a chynorthwyo i ymdrin ag ymholiadau Cymraeg yn fewnol
  • Chwarae rhan mewn cynllunio a blaenoriaethu gwaith cyfieithu gan weithio’n agos gyda thimau a chyfarwyddiaethau’r Comisiwn mewn rhannau eraill o’r DU
  • Agweddau eraill ar waith y Comisiwn yng Nghymru. Er enghraifft, gallai hyn olygu datblygu deunyddiau cyfathrebu dwyieithog, neu weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allanol
  • Dod yn gyfarwydd â holl feysydd gwaith y Comisiwn, a datblygu perthynas waith agos â chydweithwyr sydd wedi’u lleoli mewn lleoliadau amrywiol ar draws y DU.

Mwy o wybodaeth am sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, lawrlwythwch y disgrifiad swydd cyn gwneud cais ar-lein.

Derbynnir ceisiadau yn Gymraeg neu’n Saesneg. Cynhelir cyfweliadau yn Gymraeg neu’n Saesneg yn unol â dewis yr ymgeisydd.

Rydym yn cynnig telerau ac amodau gwych, gan gynnwys oriau gweithio hyblyg a’r gallu i ymuno â threfniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil (yn ddibynnol ar reolau’r cynllun).

Rydym eisiau denu’r ystod ehangaf o bobl dalentog sy’n frwd dros ddemocratiaeth. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y gorau y gallwn addasu i anghenion cymdeithas a’u hadlewyrchu. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir ac fel aelod o staff byddwch yn dod yn rhan o ddiwylliant cynhwysol, lle byddwch yn cael y cyfle i gyflawni eich potensial llawn a gwella eich gyrfa trwy ddysgu a datblygu.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 23:59 ar 9 Ionawr 2025. Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ystod yr wythnos yn dechrau 20 Ionawr 2025.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â Cath Uphill (CaUphill@electoralcommission.org.uk)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses recriwtio, cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol (recruitment@electoralcommission.org.uk)

Enw’r cwmni neu sefydliad
The Electoral Commission
Disgrifiad swydd
Welsh-Language-Support-Officer.docx
Dyddiad cau i ymgeiswyr
9 Ionawr 2025
Rhagor o wybodaeth
The Electoral Commission
The Electoral Commission

Cyfieithydd Cymraeg

Dyddiad cau: Ionawr 9
The Electoral Commission
The Electoral Commission

Swyddog Cymorth Cymraeg

Dyddiad cau: Ionawr 9
Cytûn

Swyddog Polisi Cytûn

Dyddiad cau: Ionawr 17
Nant Gwrtheyrn
Nant Gwrtheyrn

Cogydd

Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru, Nant Gwrtheyrn Llithfaen, Gogledd Cymru Oes ganddoch chi’r …
Cyngor Gwynedd

Cyfrifydd Grŵp – Adran Gyllid

Dyddiad cau: Ionawr 9
Arolygiaeth Gofal Cymru

Rhelowr Cyfathrebu

Dyddiad cau: Ionawr 13
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog y Cyfryngau Cymdeithasol

Dyddiad cau: Ionawr 6
Prifysgol Bangor

Aelod Annibynol o Gyngor Prifysgol Bangor

Dyddiad cau: Ionawr 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Ionawr 10
Trydan Gwyrdd Cymru
Trydan Gwyrdd Cymru

Arweinydd Cysylltiadau Grid

Dyddiad cau: Rhagfyr 20

Cylchlythyr