Teitl swydd: Cyfieithydd Cymraeg
Cyflog cychwynnol: £33,262 y flwyddyn
Llawn amser, parhaol: Swyddfa Caerdydd/yn y cartref (hybrid)
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod â’ch profiad fel cyfieithydd i sefydliad sy’n chwarae rhan hanfodol yn y broses ddemocrataidd?
Pwy ydym ni
Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.
Rydym yn canolbwyntio ar y materion sy’n effeithio ar Gymru ac yn goruchwylio pob maes gwaith sy’n gysylltiedig â digwyddiadau etholiadol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys canfasio cartrefi blynyddol etholwyr, etholiadau’r Senedd, etholiadau Senedd y DU, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac etholiadau llywodraeth leol.
Mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd statudol i gydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg, a grëwyd yn unol â Mesur y Gymraeg (2011). Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor, yn ein busnes o ddydd i ddydd, ac wrth ddarparu adnoddau a gwasanaethau, bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal.
Am pwy ydym ni’n chwilio
Rydym yn chwilio am gyfieithydd rhagweithiol a medrus sy’n frwdfrydig ac yn gyfforddus yn darparu cyfieithiadau Saesneg i Gymraeg o ddogfennau, cynnwys gwe a deunyddiau eraill (yn ogystal â darparu rhywfaint o gyfieithiadau Cymraeg i Saesneg yn ôl yr angen). Byddwch hefyd yn gyffyrddus yn gweithio o fewn terfynau amser ac yn darparu gwaith yn amserol.
Bydd gofynion llwyth gwaith cyfieithu yn amrywio drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod cyfnodau tawelach bydd disgwyl i chi gyfrannu at brosiectau nad ydynt yn cynnwys gwaith cyfieithu a chewch gyfle i ddatblygu sgiliau gwahanol mewn meysydd eraill.
Y rôl
Fel cyfieithydd byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein Huned Gymraeg fach. Bydd rhai o’ch cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Cyfieithu a phrawfddarllen ystod eang o ddeunyddiau corfforaethol i safon uchel, yn unol â chanllawiau arddull corfforaethol y Comisiwn a chefnogi a chynghori cydweithwyr ar draws y Comisiwn ar ddatblygu cynnwys Cymraeg, gan helpu i sicrhau ein bod yn bodloni ein hymrwymiadau statudol a nodir yn y Safonau Iaith Gymraeg.
- Mewnbynnu deunydd Cymraeg ar ein gwefan gan meddalwedd rheoli cynnwys
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ar draws y Comisiwn, a chynorthwyo i ymdrin ag ymholiadau Cymraeg yn fewnol
- Chwarae rhan mewn cynllunio a blaenoriaethu gwaith cyfieithu gan weithio’n agos gyda thimau a chyfarwyddiaethau’r Comisiwn mewn rhannau eraill o’r DU
- Cymryd rhan mewn agweddau eraill ar waith y Comisiwn yng Nghymru a gweithio gyda chydweithwyr ledled y DU. Er enghraifft, gallai hyn olygu datblygu deunyddiau cyfathrebu dwyieithog, neu weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allanol.
Mwy o wybodaeth am sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, lawrlwythwch y disgrifiad swydd cyn gwneud cais ar-lein.
Derbynnir ceisiadau yn Gymraeg neu’n Saesneg. Cynhelir cyfweliadau yn Gymraeg neu’n Saesneg yn unol â dewis yr ymgeisydd.
Rydym yn cynnig telerau ac amodau gwych, gan gynnwys oriau gweithio hyblyg a’r gallu i ymuno â threfniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil (yn ddibynnol ar reolau’r cynllun).
Rydym eisiau denu’r ystod ehangaf o bobl dalentog sy’n frwd dros ddemocratiaeth. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y gorau y gallwn addasu i anghenion cymdeithas a’u hadlewyrchu. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir ac fel aelod o staff byddwch yn dod yn rhan o ddiwylliant cynhwysol, lle byddwch yn cael y cyfle i gyflawni eich potensial llawn a gwella eich gyrfa trwy ddysgu a datblygu.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 23:59 ar 9 Ionawr 2025. Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ystod yr wythnos yn dechrau 20 Ionawr 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â Cath Uphill (CaUphill@electoralcommission.org.uk)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses recriwtio, cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol (recruitment@electoralcommission.org.uk)
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- The Electoral Commission
- Disgrifiad swydd
- Welsh-Translator-Nov-2024.docx
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 9 Ionawr 2025