Mae hon yn swydd lle y mae’r Gymraeg yn hanfodol.
Pwrpas y swydd: Er mwyn cefnogi un o amcanion strategaeth Cymraeg 2050 i gynyddu defnydd o’r Gymraeg erbyn 2050, mae’n bwysig bod y Gymraeg ar gael yn weledol ac yn ddiofyn. Un ffordd o wireddu hyn yw sicrhau bod gwasanaethau a thechnolegau digidol ar gael yn ddwyieithog.
Tasgau allweddol:
- Arwain ar ddatblygu a gweithredu adnoddau technoleg dwyieithog.
- Gweinyddu’r cyllid cysylltiedig drwy reoli a monitro grantiau technoleg.
- Arwain ar y berthynas gyda chwmnïau a sefydliadau allanol.
- Gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol i gynyddu faint o gynnwys digidol Cymraeg sydd ar gael.
- Cyflwyno gwaith y tîm mewn cynadleddau a digwyddiadau.
- Cyfrannu at dasgau eraill o fewn Is-adran Cymraeg 2050 yn ôl y galw.
Ystod cyflog neu fand cyflog: Uwch Swyddog Gweithredol £45,974 i £54,430
Union gyflog cychwynnol: £45,974
Math o gontract: 1 flwyddyn, llawn amser, ond croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser.
Math o benodiad: Benthyciad, Cyfnod Penodol, Secondiad.
Lleoliad: Ledled Cymru
Dyddiad cau: 17/01/2025, 16:00
Pam gwneud cais?
Dyma gyfle i arwain ar waith newydd a chyffrous wrth ddatblygu gwasanaethau a thechnolegau yn ddwyieithog.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfleoedd i ddatblygu sgiliau rheoli project a siarad yn gyhoeddus, er enghraifft.
Fel rhan o dîm polisi prysur mewn maes uchel ei broffil, bydd cyfleoedd i weithio gydag adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru ac yn allanol.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 17 Ionawr 2025