Dyddiad cau: 23.59 14 Ionawr 2025
Cyflog: £35,159 – £42,634 (Band Rheoli 2 – HEO)
Cyfnod: Cyflenwi cyfnod mamolaeth dros dro, gyda dyddiad cychwyn a ragwelir ar 1 Ebrill 2025. Disgwylir iddo bara am gyfnod hyd at 1 Ebrill 2026.
Lleoliad: Bae Caerdydd
Rydym yn recriwtio Swyddog Allgymorth Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc dros dro i ymuno â’n Tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc.
Gan weithio gyda gweddill y tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc byddwch yn helpu i ddarparu ystod o raglenni addysgol ar ystad y Senedd, a ledled Cymru i sicrhau bod addysgwyr a phobl ifanc yn ymgysylltu â gwaith y Senedd a dweud eu dweud ar faterion sydd o bwys iddynt.
Byddwch yn cefnogi gwaith Senedd Ieuenctid Cymru ac yn cefnogi ei chynrychiolwyr ifanc. Byddwch hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau ar gyfer y cynrychiolwyr yn Ne-orllewin Cymru, gan gynnwys penwythnosau preswyl yng Nghaerdydd.
Dylai fod gennych ddiddordeb brwd mewn sut y gall pobl ifanc ddylanwadu ar wleidyddiaeth Cymru, awydd angerddol i ymgysylltu ag ystod amrywiol o unigolion, a phrofiad o weithio gyda Phobl Ifanc.
Os yw hynny’n eich disgrifio chi, peidiwch ag oedi, gwnewch gais heddiw!
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Senedd Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 14 Ionawr 2025