Cyllid a Thollau

Cyfieithydd – Caerdydd / Porthmadog

Dyddiad cau: 21 Ionawr 2025

Cyfieithydd – Caerdydd / Porthmadog (£29,475 – £31,536)

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chryf ei gymhelliad i ymuno â’n tîm yng Nghaerdydd neu Borthmadog. Dyma gyfle i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad i gynhyrchu cyfieithiadau o’r radd flaenaf i CThEF.

Bydd gennych sgiliau iaith rhagorol (Cymraeg a Saesneg), a naill ai gradd yn y Gymraeg, cymhwyster Cymraeg cyfatebol neu brofiad o gyfieithu i’r Gymraeg. Dylech hefyd feddu ar brofiad o brosesau, meddalwedd ac adnoddau cyfieithu Cymraeg, a gallu cynhyrchu a phrawf-ddarllen cyfieithiadau i safon uchel.

Cewch gyfle i ddefnyddio pecynnau meddalwedd modern i gyfieithu dogfennau ac i fod yn rhan o brosiectau cyfieithu allweddol. Bydd cyfle hefyd i drafod terminoleg ac arddull ysgrifennu newydd a phenderfynu arnyn nhw.

I gael gwybodaeth am y buddion a sut i wneud cais, chwiliwch am swydd rhif 382323 ar borth Swyddi’r Gwasanaeth Sifil drwy fynd i www.civilservicejobs.service.gov.uk

Fel arall, cysylltwch â gareth.w.williams@hmrc.gov.uk ar 07796 566525.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Cyllid a Thollau
Dyddiad cau i ymgeiswyr
21 Ionawr 2025
Rhagor o wybodaeth
Creu Cymru

Hyrwyddwr Llyfr Gwyrdd y Theatr Cymru (llawrydd)

Dyddiad cau: Ionawr 20
Cyllid a Thollau

Cyfieithydd – Caerdydd / Porthmadog

Dyddiad cau: Ionawr 21
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog: Technoleg Iaith

Dyddiad cau: Ionawr 17
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Ymddiriedolwr- Llyfrgell Genedlaethol

Dyddiad cau: Ionawr 20
Y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol

Cyfieithydd Cymraeg

Dyddiad cau: Ionawr 9
Y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol

Swyddog Cymorth Cymraeg

Dyddiad cau: Ionawr 9
Cytûn

Swyddog Polisi Cytûn

Dyddiad cau: Ionawr 17
Nant Gwrtheyrn
Nant Gwrtheyrn

Cogydd

Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru, Nant Gwrtheyrn Llithfaen, Gogledd Cymru Oes ganddoch chi’r …
Cyngor Gwynedd

Cyfrifydd Grŵp – Adran Gyllid

Dyddiad cau: Ionawr 9

Cylchlythyr