Llywodraeth Cymru

Aelodau’r Cyngor- Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: 21 Ionawr 2025

Llywodraeth Cymru

 

Ydych chi’n credu bod y celfyddydau’n gallu newid bywydau?

Ydych chi’n credu y dylen nhw fod ar gael i bawb?

Ydych chi’n ymwybodol o effaith y celfyddydau a’u manteision i iechyd, cyfoeth a llesiant yng Nghymru?

Cyfleoedd cyffrous i gyfrannu at ddatblygiad y celfyddydau yng Nghymru

 

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Tua 1.5 diwrnod y mis

Di-dâl, bydd costau teithio a chynhaliaeth yn cael eu talu

 

Mae Llywodraeth Cymru’n gwahodd ceisiadau i ddau unigolyn wasanaethu fel aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yr unigolion hyn yn chwarae rhan allweddol wrth helpu Cyngor Celfyddydau Cymru i gyflawni ei flaenoriaethau strategol o hyrwyddo diwylliant bywiog, amrywiol a chynhwysol a sector gelfyddydol sy’n gynaliadwy ac arloesol.

Bydd y penodiad yn dechrau 1 Ebrill 2025 ac os byddwch yn cael eich penodi, byddwch yn chwarae rôl bwysig yn cyflawni ymrwymiadau polisi strategol Llywodraeth Cymru i hyrwyddo diwylliant cyfoethog ac amrywiol, a sector celfyddydau cynaliadwy, hyfyw ac arloesol.

 

Mae disgwyl i Aelodau’r Cyngor:

  • Gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Cyngor a chyfrannu atynt yn effeithiol, yn enwedig o ran diffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol, gosod a chyflawni amcanion heriol, a chefnogi polisi Llywodraeth Cymru;
  • Adolygu, craffu, herio a chefnogi’r Weithrediaeth;
  • Hyrwyddo safonau uchel o uniondeb wrth reoli arian cyhoeddus, a sicrhau bod gweithgareddau’r Cyngor yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol, gan sicrhau gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer gorau, rheoleidd-dra ac uniondeb;
  • Cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol, gan gynnwys cymeradwyo cynlluniau cyllideb blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol;
  • Gweithio fel rhan o Gyngor sy’n gwerthfawrogi gwahaniaeth ac yn herio ymddygiadau anymwybodol;
  • Penodi Prif Weithredwr, os oes angen, ar ôl cael sêl bendith Llywodraeth Cymru; a
  • Chymryd rhan weithredol mewn gwaith i ehangu mynediad a chreu sector a sefydliad Celfyddydol cynhwysol yn unol â Chynllun Gweithredu Cyngor Celfyddydau Cymru ar Ehangu Ymgysylltiad a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd a’r Cynllun Gweithredu LHDTQ.

 

Er mwyn cryfhau a chydbwyso Aelodaeth y Cyngor a chyflawni blaenoriaethau strategol dros y tair blynedd nesaf, bydd angen i’r Aelodau ddangos y rhinweddau, y sgiliau a’r profiad i fodloni’r holl feini prawf hanfodol ar gyfer eu penodi: Mae manyleb lawn y person a’r meini prawf hanfodol wedi’u cynnwys ym mhecyn gwybodaeth yr ymgeiswyr.

Bydd y penodiad am dymor cychwynnol o dair blynedd ac fe fydd angen ymrwymiad o 1.5 diwrnod y mis ar fusnes y Cyngor a bydd angen mynychu holl gyfarfodydd y Cyngor mewn lleoliadau amrywiol yng Nghymru.  Mae’r swyddi hyn yn ddi-dâl er y bydd costau teithio a chynhaliaeth yn cael eu had-dalu.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai cyrff cyhoeddus gael aelodau o’r bwrdd sy’n adlewyrchu cymdeithas Cymru – pobl o bob cefndir – i’w helpu i ddeall anghenion pobl a gwneud penderfyniadau gwell.  Dyna pam mae Llywodraeth Cymru’n annog ystod eang ac amrywiol o unigolion i wneud cais am benodiad i gyrff cyhoeddus.  Mae croeso arbennig i geisiadau gan bob grŵp sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys menywod, pobl dan 30 oed, aelodau o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 21 Ionawr 2025 am 16:00.  Ni chaiff ffurflenni cais a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried.

Gallwch weld fersiwn print bras, Braille neu sain o’r hysbyseb hon drwy gysylltu â03000 255454.

Enw’r cwmni neu sefydliad
Llywodraeth Cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
21 Ionawr 2025
Rhagor o wybodaeth
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Aelodau’r Cyngor- Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ionawr 21
Creu Cymru

Hyrwyddwr Llyfr Gwyrdd y Theatr Cymru (llawrydd)

Dyddiad cau: Ionawr 20
Cyllid a Thollau

Cyfieithydd – Caerdydd / Porthmadog

Dyddiad cau: Ionawr 21
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog: Technoleg Iaith

Dyddiad cau: Ionawr 17
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Ymddiriedolwr- Llyfrgell Genedlaethol

Dyddiad cau: Ionawr 20
Y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol

Cyfieithydd Cymraeg

Dyddiad cau: Ionawr 9
Y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Etholiadol

Swyddog Cymorth Cymraeg

Dyddiad cau: Ionawr 9
Cytûn

Swyddog Polisi Cytûn

Dyddiad cau: Ionawr 17
Nant Gwrtheyrn
Nant Gwrtheyrn

Cogydd

Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru, Nant Gwrtheyrn Llithfaen, Gogledd Cymru Oes ganddoch chi’r …

Cylchlythyr