Parc Cenedlaethol Eryri

Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau

Dyddiad cau: 30 Ionawr 2025

Parc Cenedlaethol Eryri Newydd

Cyflog:

Mae’r swydd yn cael tâl ar ffurf ffi ddyddiol wedi’i gyfyngu i fwyafswm o 4 diwrnod llawn y flwyddyn.

Lleoliad:

Prif Swyddfa Parc Cendelaethol Eryri

 

  1. PWRPAS Y SWYDD

1.1      Hyrwyddo a chynnal safonau uchel ymddygiad gan Aelodau ac Aelodau cyfetholedig.

 

2. PRIF GYFRIFOLDEBAU

2.1      Cynghori’r Awdurdod ynghylch mabwysiadu neu adolygu Codau Ymddygiad yr Awdurdod.

2.2      Monitro gweithrediad Codau Ymddygiad yr Awdurdod.

2.3      Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi Aelodau o’r Awdurdod ar faterion sy’n ymwneud â Chodau Ymddygiad yr Awdurdod.

2.4      Datblygu gwybodaeth berthnasol er cyfrannu yn deg ac yn gywir i swyddogaeth y Pwyllgor.

2.5      Ystyried a phenderfynu pan fo hynny’n briodol ar faterion sy’n cael eu cyfeirio ato gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

2.6      Ystyried cwynion yn erbyn Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig.

2.7      Rheoli gollyngiadau yn unol ag Adran 81(4) (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a’r Rheoliadau a wneir dan y ddeddf honno i Aelodau neu Aelodau Cyfetholedig sydd â diddordeb personol mewn unrhyw fusnes yr Awdurdod.

2.8      Awdurdodi taliadau gan y Swyddog Monitro o lwfansau a threuliau i bersonau sydd wedi cynorthwyo ag ymchwiliad gan y Swyddog Monitro.

2.9      Sefydlu’r weithdrefn ar gyfer penderfynu cwynion sy’n cael eu cyfeirio ato i’w hystyried.

2.10    Mae Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau hefyd yn aelodau o’r Panel Apeliadau Graddfa Statws Sengl sy’n ystyried apeliadau yn erbyn penderfyniad disgyblaeth, ystyried cwynion yn unol â’r Drefn Gwyno a hefyd ystyried apeliadau yn erbyn sut y cymhwysir neu y dehonglir amodau gwasanaeth.

 

3. CYD-DESTUN

3.1      Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi sefydlu Pwyllgor Safonau yn ôl gofynion Adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”).  Rhoddwyd i’r Pwyllgor y swyddogaeth o hysbysu’r Awdurdod ar faterion yn ymwneud ag ymddygiad aelodau, cynghori ar Godau Ymddygiad ar gyfer aelodau a swyddogion a hyrwyddo ymddygiad o safon uchel drwy’r Awdurdod cyfan.

 

4. TREFNIADAU GWEITHIO

4.1      Penodir Aelodau Annibynnol am dymor o bum mlynedd. Mae’r Rheoliadau yn caniatáu penodi ar gyfer un tymor dilynol o bedair blynedd fel aelod o Bwyllgor Safonau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri os yw’r Awdurdod yn eu cymeradwyo.

 

5. CYSYLLTIADAU GWEITHIO

5.1      Asesiad Fframwaith Sgiliau’r Iaith Cymraeg

Gwrando – Dymunol

Darllen – Dymunol

Siarad – Dymunol

Ysgrifennu – Dymunol

Enw’r cwmni neu sefydliad
Parc Cenedlaethol Eryri
Rhif ffôn am fwy o wybodaeth
01766 770274
Ebost
parc@eryri.llyw.cymru
Dyddiad cau i ymgeiswyr
30 Ionawr 2025
Parc Cenedlaethol Eryri Newydd
Parc Cenedlaethol Eryri

Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau

Dyddiad cau: Ionawr 30
e-sgol

Bwrdd Prosiect e-sgol

Dyddiad cau: Ionawr 27
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

Dyddiad cau: Ionawr 25
Amgueddfa Cymru

Pennaeth Addysg

Dyddiad cau: Chwefror 2
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Aelodau’r Cyngor- Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ionawr 21
Creu Cymru

Hyrwyddwr Llyfr Gwyrdd y Theatr Cymru (llawrydd)

Dyddiad cau: Ionawr 20
Cyllid a Thollau

Cyfieithydd – Caerdydd / Porthmadog

Dyddiad cau: Ionawr 21
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog: Technoleg Iaith

Dyddiad cau: Ionawr 17
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru

Ymddiriedolwr- Llyfrgell Genedlaethol

Dyddiad cau: Ionawr 20

Cylchlythyr