Lleoliad: Llanberis / Hybrid
Oriau: 21 awr yr wythnos
Contract: Cyfnod penodol 12 mis gyda’r phosibilrwydd o estyniad
Cyflog £14,136.61 -£16,444.03
Dyma gyfle cyffrous i chwarae eich rhan yn y gwaith o drawsnewid un o amgueddfeydd mwyaf poblogaidd Amgueddfa Cymru. Bydd Prosiect Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn gwarchod, yn gwella ac yn dehongli safle eithriadol yr Amgueddfa Lechi, ac yn creu canolfan Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n cefnogi sgiliau, dysgu a lles traddodiadol.
Bydd y prosiect yn cynnwys ac yn ysbrydoli cymunedau ac ymwelwyr, gan gysylltu pobl â stori ryfeddol y diwydiant llechi a’r dirwedd y mae wedi’i ffurfio, sy’n arwyddocaol yn fyd-eang.
Bydd y prosiect hwn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Cyngor Gwynedd, wrth i’r Cyngor gyflawni cynlluniau uchelgeisiol i ailddatblygu parc gwledig Parc Padarn o amgylch yr amgueddfa. Bydd y prosiect ailddatblygu yn integreiddio â datblygiadau ehangach fel rhan o weledigaeth ar gyfer twristiaeth gynaliadwy sy’n ystyried cymunedau lleol ac yn ymateb iddynt.
Mae’r Amgueddfa’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i gefnogi’r gwaith o weinyddu’r prosiect drwy gefnogi dyletswyddau gweinyddol o ddydd i ddydd wrth gyflawni prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, gan gynnwys codi archebion prynu, cymryd cofnodion, ffeilio dogfennau a threfnu cyfarfodydd.
Prif Gyfrifoldebau
- Codi a phrosesu archebion adrannol drwy’r System Ariannol NAV, a pharatoi anfonebau adrannol.
- Ymgymryd â dyletswyddau rheoli dyddiadur, cydlynu cyfarfodydd ac archebion grŵp, gan gysylltu â staff priodol yn ôl yr angen.
- Darparu cymorth ar gyfer cyfarfodydd ffrydiau gwaith y prosiect, helpu i baratoi agendâu, cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd a chynhyrchu cofnodion.
- Goruchwylio a monitro prosesau gweinyddol, cynorthwyo a chysylltu â chyd-weithwyr yn yr amgueddfa i wella effeithlonrwydd.
- Cynnal a diweddaru ffeiliau a ffolderi’r adran.
- Rheoli archebion ar gyfer gweithgareddau allgymorth yn ystod y cyfnod o gau dros dro ar gyfer y prosiect ailddatblygu.
- Gwneud trefniadau teithio lle bo angen.
- Cydlynu’r gwaith o osod ystafelloedd ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd.
Cyfrifoldeb masnachol: mae pob aelod o staff yn gyfrifol am lwyddiant masnachol Amgueddfa Cymru. Yn benodol ar gyfer y swydd hon, bydd angen gwneud y canlynol:
- Sicrhau bod canllawiau caffael yn cael eu dilyn a sicrhau gwerth am arian wrth brynu nwyddau a gwasanaethau.
I drafod yn anffurfiol ac i gael copi o Friff yr Ymgeisydd, cysylltwch â thîm Penodi ar 07385 502078 neu helo@penodi.cymru.
I wneud cais, uwchlwythwch eich CV a llythyr eglurahol ar wefan Penodi yma.
Linc i ymgeisio: https://www.penodi.cymru/view-job/17365070355570070651RMT
Dyddiad cau: 23 Ionawr 2025
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Amgueddfa Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 23 Ionawr 2025