Tâl cydnabyddiaeth – bydd hawl gan yr aelodau i hawlio tâl cydnabyddiaeth ar gyfradd o £100 y dydd.
Bydd costau rhesymol yn cael eu had-dalu.
Ymrwymiad amser o 8 diwrnod y flwyddyn o leiaf am gyfnod hyd at fis Mai 2026, gyda’r posibilrwydd o estyniad.
Roedd Adroddiad Terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn nodi’r bygythiadau a’r heriau i’n hiechyd democrataidd ac yn cyflwyno set o argymhellion i fynd i’r afael â hyn. Mewn ymateb, mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn sefydlu’r Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth ac mae’n dymuno dwyn ynghyd ddylanwadwyr a chynghorwyr ym maes arloesi a chyfranogiad democrataidd a’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn cynnwys pobl ym mhrosesau democratiaeth. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru.
Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi eu hysbrydoli i fynd ar drywydd cyfleoedd effeithiol i gynnwys dinasyddion a sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan, yn ogystal ag ymchwilio i ddulliau creadigol o sicrhau bod lle i lais y dinesydd wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth.
Rydym am greu Grŵp amrywiol a chroesewir yn arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol,gan gynnwys pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, menywod, pobl dan 30 oed, pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol arall, pobl anabl, a phobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol. Os ydych am gael cymorth neu addasiadau er mwyn gwneud cais am y swydd hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru. Gellir hefyd gwneud addasiadau i gefnogi pobl yn y swydd.
Bydd disgwyl i’r aelodau gefnogi’r Cadeirydd i gyflawni cylch gwaith y Grŵp drwy gyfrannu arbenigedd, gweledigaeth a phrofiad, yn ogystal â chydweithio â rhanddeiliaid.
Rydym yn credu y dylai Cymru fod yn uchelgeisiol wrth greu diwylliant democrataidd cydnerth, ac mae hwn yn gyfle arwyddocaol i adfywio’r ffordd y mae dinasyddion yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu â phrosesau gwneud penderfyniadau.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 17 o Chwefror.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 17 Chwefror 2025