Mae Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn chwilio am unigolyn arbennig i arwain y Nant i’r dyfodol disglair sydd o’i blaen ac i wireddu ein cynlluniau cynhyrfus ar gyfer dysgu, dathlu a mwynhau yn y lleoliad dramatig a hanesyddol hwn.
Bydd gan y sawl a benodir brofiad sylweddol a dealltwriaeth dda o fwy nag un o’r meysydd canlynol:
- Dysgu Cymraeg i Oedolion
- Masnach a Busnes
- Twristiaeth ddiwylliannol ac amgylcheddol
- Ysbrydoli a rheoli pobl a thimau
- Ymwneud â chymunedau lleol
- Denu cefnogaeth ariannol
- Ymwneud â chyrff cenedlaethol a rhanbarthol
- Marchnata a chyfathrebu effeithiol
- Rheoli eiddo
Bydd yn arwain tîm ymroddedig o 40 o gyd-weithwyr ac yn atebol i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth.
Sgiliau llafar ac ysgrifenedig uchel yn Gymraeg a Saesneg yn angenrheidiol
Ystod cyflog: £62131 – £68581 (5 gris) + cyfraniad at bensiwn
Cysyllter â post@nantgwrtheyrn.org i gael swydd ddisgrifiad llawn.
Dyddiad cau: 14eg Chwefror, 2025
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Nant Gwrtheyrn
- Disgrifiad swydd
- Swydd-Ddisgrifiad-Prif-1.docx
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 14 Chwefror 2025