Mae Mr Dafydd Davies wedi goroesi ar ôl ei hanner tymor cyntaf fel Pennaeth ar nid un, ond dwy ysgol yn y gogledd, sef Ysgol Betws Gwerful Goch ac Ysgol Bro Elwern. Fe sy’n ateb cwestiynau busneslyd ‘Jest y Job’ yr wythnos hon…
Un o ble ydych chi?
Llansannan
Beth fuoch chi’n ei wneud cyn y swydd hon?
Dirprwy yn Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych
Sut baned gymrwch chi?
Rhaid iddi fod mewn cwpan Manchester United. Dim ond un ffordd sydd i wneud coffi: llefrith, y coffi a hanner siwgwr gyntaf a wedyn y dŵr berwedig. Prin anaml dwi’n yfed te.
Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?
Dwi’n mwynhau gwylio pêl-droed (Llansannan a Manchester United, a Chymru wrth gwrs) a chymdeithasu!
Beth yw eich swydd waethaf/orau hyd yn hyn?
Ddim yn mwynhau llnau ar ôl i blant fod yn sâl (ond pwy fyddai’n mwynhau hyn!)
Beth oedd eich hoff bynciau yn yr ysgol?
Mathemateg, Hanes a Chyfrifiaduron. Cymysgedd dda!
Beth yw eich hoff air neu ddywediad?
Bach hedyn bob mawredd
Beth yw’r wers orau i chi ei dysgu mewn bywyd?
Cymryd mai gwers bywyd ydach chi’n feddwl… (achos nes i andros o wers dda yn ystod yr arolwg dwetha!) Pwysigrwydd trin pawb yn deg a rhoi amser i bobl.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
A’i fi fyddai’n coginio?! Amau yn gryf os fyddai na neb isho dod, byw neu farw! Fyddai’n rhaid i mi ddeud Owain Glyndŵr am lobsgows. Dim rheswm pam!
Byw i weithio, neu gweithio i fyw?
Dwi’n fwy o rebel weekend! Gweithio’n galed ac oriau hir trwy’r wythnos a’r penwythnos i fi’n hun!
Beth yw eich gobeithion i’r dyfodol yn y swydd?
Ga ni weld sut mae pethau yn mynd!
Cafodd y swyddi yma eu hysbysebu ar Golwg360