Almaenes yn hybu’r Gymraeg ym myd busnes

Bydd byd busnes a’r iaith yn elwa o gefndir a phrofiad merch o’r Almaen, sydd wedi dysgu Cymraeg mewn cwta pum mlynedd, wrth iddi ddod i arwain prosiect Cymraeg Byd Busnes y Mentrau Iaith.

Bydd byd busnes a’r iaith yn elwa o gefndir a phrofiad merch o’r Almaen, sydd wedi dysgu Cymraeg mewn cwta pum mlynedd, wrth iddi ddod i arwain prosiect Cymraeg Byd Busnes y Mentrau Iaith.

O Sacsoni ddaw Daniela Schlick yn wreiddiol. Bu’n byw yn Berlin am 15 mlynedd, ond erbyn hyn mae wedi ymgartrefu ym Mhorthaethwy ym Môn. Mae’n cyfaddef iddi syrthio mewn cariad â’r Gymraeg ymhell cyn symud i fyw yma – sylweddolodd pwysigrwydd yr iaith i’r bobl pan oedd ar wyliau yn y gogledd flynyddoedd yn ôl. Cafodd flas ar yr iaith mewn Ysgol Haf ym Mangor a Phwllheli i ddechrau, cyn gwneud y penderfyniad i symud i Gymru dair blynedd yn ôl. Ar ôl cyfnod o setlo mewn gwlad ag iaith wahanol, “wrth gwrs” y byddai’n dysgu’r iaith, medd Daniela, a bellach mae’n “barod i weithio yn y Gymraeg i’w chefnogi”.

Gyda gradd mewn economeg a phrofiad o wneud prentisiaeth fel gohebydd ieithoedd tramor, nid yw’n syndod bod y swydd hon gyda’r Mentrau Iaith wedi denu ei sylw. Mae’n gweld bod y Gymraeg yn elfen hollol naturiol yng ngwaith nifer o fusnesau eisoes, ond nad oes digon o fusnesau yng Nghymru yn gwneud defnydd da o’r iaith. Ei nod yw sicrhau y bydd y prosiect yn helpu a chefnogi’r busnesau sydd am wneud mwy o ddefnydd o’r iaith neu gynnwys y Gymraeg yn rhan o’u busnes.

Ei chyngor i fusnesau sydd am wella eu harferion yw “dysgwch dipyn bach bob dydd” a siaradwch gymaint ag sy’n bosibl. Mae am annog busnesau i beidio â phoeni am eu sgiliau iaith, oherwydd bod y pethau bychain yn gwneud gwahaniaeth, ac mae hefyd yn eu hannog i gysylltu â’u Menter Iaith leol i ofyn am gymorth. Bydd Daniela a’i chydweithwyr ar draws Cymru ar gael i’w cefnogi.

Ei nod yn y pen draw yw cyfrannu at yr ymdrech i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymdeithas yn gyffredinol, ac mae gweithio gyda byd busnes yn un ffordd o gyrraedd y nod hwnnw. Pan nad yw’n gweithio mae’n mwynhau rhedeg, canu gyda Chôr Dros y Bont (côr ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg) a threfnu sesiynau sgwrsio i ddysgwyr. Pob hwyl i Daniela yn gwneud ei rhan dros y Gymraeg – trwy gyfrannu at fyd busnes ac at ein diwylliant a’n ffordd o fyw.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg360.

Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7

Cylchlythyr