Mae un o brif gwmnïau datblygu busnes Cymru wedi penodi Rheolwr-Gyfarwyddwr newydd. Bydd Bronwen Raine yn dilyn ôl traed Dewi Williams wrth arwain menter gymdeithasol Antur Teifi – menter sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed yn 2019.
Daw Bronwen o’r Rhondda yn wreiddiol, ac ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yn y Brifddinas aeth ymlaen i astudio’r gyfraith yn y London School of Economics. Ond yn hytrach na dilyn gyrfa addawol yn y gyfraith, mentrodd i fyd entrepreneuriaeth gan redeg busnesau cludo nwyddau a busnes hurio beiciau modur yn Llundain.
Dychwelodd i Gymru i weithio fel arbenigwr ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector gwirfoddol ac fel ymgynghorydd, cyn cael swydd fel Rheolwr Cytundeb Cychwyn Busnes Newydd i Geredigion a Phowys gydag Antur Teifi.
Ei blaenoriaeth fel Rheolwr-Gyfarwyddwr fydd cryfhau elfen fasnachol y fenter. Mae hefyd yn awyddus i ddefnyddio “cyfoeth o brofiad a gwybodaeth” Antur Teifi o wasanaethu busnesau ledled Cymru. “Mae gennym lawer yn gyffredin â’r busnesau yr ydym wedi’u cefnogi dros y blynyddoedd. Wedi tyfu o gwmni bach ond ymrwymedig ein hunain, mae gennym ddealltwriaeth gynhenid o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau a mentrau gwledig” medd Bronwen.
Wrth gydnabod bod y profiad hwnnw’n deillio o wreiddiau lleol cryf y fenter yn Nyffryn Teifi, mae’n teimlo bod gwreiddiau’n sail hollbwysig ar gyfer busnes llwyddiannus. I Bronwen, mae busnes lleol da yn un sy’n aros yn driw i’w wreiddiau, sy’n “adlewyrchu’r diwylliant a’r gwerthoedd digamsyniol sydd i’w cael yn lleol, ond sydd hefyd ar flaen y gad wrth esblygu arferion busnes ac yn barod i newid er mwyn parhau’n berthnasol i farchnadoedd sy’n newid”.
Ac wrth ddechrau yn ei rôl newydd gyda’r cwmni datblygu busnes, mae ganddi air o gyngor i unrhyw sy’n sy’n awyddus i fentro yn y maes – “gwnewch rywbeth yr ydych yn credu’n frwd ynddo, cymerwch eich amser, ymchwiliwch i’ch marchnad a pheidiwch â thanbrisio eich hun.”
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg360.