Jest y Job – Aled ap Dafydd yw Prif Ohebydd Newyddion 9

Ddydd Llun bydd Aled ap Dafydd yn dechrau at ei swydd fel Prif Ohebydd Newyddion 9 ar S4C.

 

Un o ble ydych chi?

O Dregarth ger Bangor, ond wedi byw yng Nghaerdydd am ugain mlynedd ar wahân i gyfnod yn Llundain.

Pam ymgeisio am y swydd yma?

Wedi blynyddoedd hapus gyda thîm gwleidyddol BBC Cymru, roedd yn gyfle i fynd yn ôl at raglen ble cefais fy nghyfle cyntaf fel newyddiadurwr teledu ac ailymuno â chydweithwyr ymroddgar.

Pam fod Newyddion 9 yn bwysig i Gymru?

Dim ond ar Newyddion 9 y gellir cael newyddion nosweithiol yn Gymraeg. Mae hynny yn golygu fod iddi statws breintiedig ond gyda hynny daw cyfrifoldeb i wasanaethu cynulleidfa benodol fyddai fel arall heb raglen newyddion yn eu mamiaith.

Beth oedd eich swydd waethaf erioed?

Pigo mefus ar fferm yn Sir Fôn tra yn y coleg.

Beth yw eich hoff gyfweliad?

Yr hoff gyfweliad yn ddi-ffael ydi’r un lle mae gan y sawl sy’n cael ei gyfweld stori neu neges y mae’n awyddus i’w rannu. Mae cymaint erbyn hyn yn rhoi’r un ateb heb wrando ar y cwestiwn, gwaetha’r modd.

Beth yw’r profiad gwaethaf ry’ch chi wedi’i gael fel gohebydd?

Y profiad gwaethaf a’r mwyaf doniol (ond nid i mi!) oedd gwisgo i fyny fel dyn lolipop yn Nhremadog ar gyfer eitem newyddion. Alla’ i ddim cofio beth oedd y stori, ond dwi’n cofio’r wisg!

Sut stad sydd ar newyddiaduriaeth a’r cyfryngau yng Nghymru ar hyn o bryd?

Gwendid newyddiaduraeth yng Nghymru ydi diffyg plwraliaeth. Mae’n golygu bod ‘na lai o ddewis i’r defnyddwyr ac o ganlyniad mae canran sylweddol yn parhau i gael eu ‘newyddion’ o Lundain; yn enwedig gan bapurau newydd Llundeinig.

Unrhyw gyngor i gyw-newyddiadurwyr?

Y cyngor i unrhyw ohebydd ydi siaradwch â phawb, cadwch feddwl agored, byddwch yn deg a pheidiwch â gadael i deyrngarwch personol fynd yn y ffordd.

Beth yw’r wers orau i chi ei dysgu mewn bywyd?

Effeithio ar yr hyn sydd o fewn eich rheolaeth, a pheidio â phoeni’n ormodol am bethau sydd ddim.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.

Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7

Cylchlythyr