Jest y Job i gyfieithwyr newydd yng Ngheredigion

Mae pedwar cyfieithydd wedi’u croesawu i Gyngor Sir Ceredigion yn ddiweddar, ac aeth Golwg i holi dau ohonynt – Lliwen Jones a Dafydd Williams – am eu swydd newydd.

Mae pedwar cyfieithydd wedi’u croesawu i Gyngor Sir Ceredigion yn ddiweddar, ac aeth Golwg i holi dau ohonynt – Lliwen Jones a Dafydd Williams – am eu swydd newydd…

Lliwen Glwys Jones

Beth yw eich hoff swydd hyd yn hyn?

Gwneud gwaith cyfieithu i Atebol dros yr haf pan roeddwn i yn y brifysgol. Roedd awyrgylch hamddenol a chartrefol yn y swyddfa, ac roeddwn i’n edrych ymlaen at fynd i’r gwaith bob bore. Er nad oedd gen i lawer o brofiad cyfieithu cyn gweithio yno, roedd ganddynt bob ffydd yn fy ngallu, ac roedd hynny’n braf iawn o ystyried mai myfyriwr oeddwn i ar y pryd.

Pam dewis bod yn gyfieithydd?

Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn ieithoedd, ac rwyf hefyd wastad wedi bod yn hoff iawn o ramadeg (doedd dim llawer o bobl eraill yr un oed â mi’n rhannu’r un angerdd!).

Sut ydych chi’n hoffi eich paned?

Te gyda llaeth, dim siwgr. Mae gen i gwpl o fygiau gramadegol arbennig sy’n ddefnyddiol ar gyfer fy ngwaith  – un gyda’r arddodiaid arno a’r llall gydag idiomau arno – ond fy hoff fwg heb os yw un sy’n adlewyrchu fy nhafodiaith, sy’n darllen “Mae Maldwyn yn brêf yn yr hêf!”

Sut ydych chi’n cadw’n heini?

Rwy’n dawnsio ddwywaith yr wythnos ar hyn o bryd gyda’r gymdeithas ddawnsio stryd yn Aberystwyth, yn gwneud ioga ac yn hoff o fynd am dro hefyd. Rwyf wedi rhoi cynnig ar ddosbarthiadau HIIT a circuit training ambell waith yn y gorffennol, ond rwyf wedi bod yn agos at lewygu mwy neu lai bob tro, felly tydw i heb wneud hynny’n rhan reolaidd o’n rwtîn…

Pa air y mae’n gas gennych chi ei gyfieithu?

Mae ‘engaging’ yn gallu bod yn air reit lletchwith ar adegau oherwydd ei fod yn eithaf amwys, a ‘cover’ hefyd oherwydd bod ganddo sawl ystyr gwahanol.

Dafydd Williams

Un o ble ydych chi?

Cwmann, Sir Gâr.

Rhowch syniad i ni o ddiwrnod arferol yn eich swydd newydd

Yn y bore rwy’n tueddu i brawf ddarllen gwaith rydw i wedi’i wneud yn bennaf y diwrnod cynt, er mwyn ei adolygu a’i wella cyn ei ddychwelyd i’r cwsmer, cyn dechrau ar waith newydd yn y prynhawn. Drwy lwc, dwi ddim yn gwneud unrhyw gyfieithu ar y pryd, felly does dim rhaid i fi boeni am fynd i gyfarfodydd.

Sut beth fyddai eich penwythnos delfrydol?

Gwylio pêl-droed, mynd â’r ci am dro, darllen ac ymlacio’n gyffredinol.

Beth yw’r cam-gyfieithiad gwaethaf i chi weld erioed?

‘Cyclists dismount – llid y bledren dymchwelyd’. Ond mae digon o ddewis!

Pa air y mae’n gas gennych chi ei gyfieithu?

Availability.

 

Cafodd y swyddi hyn eu hysbysebu ar Golwg360.

Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7

Cylchlythyr