Mentor da yw’r allwedd i lwyddiant

Mentor da yw’r allwedd i lwyddiant – dyna farn Jonathan Fry, yr arbenigwr ar ddigwyddiadau sydd newydd ei benodi’n Ddarlithydd Busnes a Rheolaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth.

Mentor da yw’r allwedd i lwyddiant

Dyna farn Jonathan Fry, yr arbenigwr ar ddigwyddiadau sydd newydd ei benodi’n Ddarlithydd Busnes a Rheolaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth.

Mae Jonathan yn cofio clywed un o’r athrawon Busnes yn y Brifysgol yn dweud wrtho y byddai’n hoffi gweld un o’i ddisgyblion yn sefydlu ei fusnes ei hun. Felly, tra’r oedd Jonathan yn astudio ar gyfer ei MPhil dechreuodd fusnes gwerthuso digwyddiadau a lleoliadau o’r enw Event Rater. Aeth y cwmni hwnnw ymlaen i ennill gwobr Cwmni Digidol Gorau gyda Banc Lloyds yn 2014.

Bellach mae Jonathan yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Darlithydd mewn Busnes a Rheolaeth, ac mae’n awyddus i ddefnyddio ei brofiadau ei hun i ysbrydoli myfyrwyr Aberystwyth i fentro a dechrau eu busnes eu hunain.

Mae wedi bod yn uchelgais gan Jonathan i fod yn ddarlithydd ers iddo raddio o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac mae’n arbennig o awyddus i gyfrannu at y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd yn ymuno ag adran lewyrchus, gan fod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod canran boddhad myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 95.21% ar gyfer cyrsiau Busnes a 94.58% ar gyfer cyrsiau Rheolaeth, yn ôl ffigurau NSS.

Yn ogystal â dysgu modiwlau’n ymwneud ag amgylchedd busnes a thwristiaeth, mae’n arbennig o awyddus i weithio ar y modiwl cyflogadwyedd a phrofiad gwaith, er mwyn chynnig mwy o brofiadau yn y byd gwaith go iawn i fyfyrwyr trwy’r cwrs.

Felly, fel arbenigwr ar drefnu digwyddiadau, beth yw’r digwyddiad gorau iddo fod yn rhan ohoni? Wel, mae un o’i ddigwyddiadau ef ei hun wedi aros yn y cof. Trefnodd ef a chriw o gyd-fyfyrwyr noson gomedi ar thema rygbi’r Chwe Gwlad yng Nghlwb Comedi’r Glee yn y brifddinas. Gwerthwyd pob tocyn a chodwyd £4,800 tuag at elusen Tŷ Hafan – yr elw mwyaf yn hanes y cwrs!

Mae’n amlwg y bydd myfyrwyr Busnes a Rheolaeth cyfrwng Cymraeg Aberystwyth eleni mewn dwylo da ac yn siŵr o ddysgu tipyn gan y gŵr ifanc hwn sy’n arbenigwr ar gynnal y digwyddiad perffaith. Felly a oes ganddo air o gyngor i rywun sydd am fentro a dechrau eu busnes eu hun? “Rhaid i chi fod yn angerddol am y fenter, peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to, a dewch o hyd i fentor da.” Pob hwyl i Jonathan ar y gwaith.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.

Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7

Cylchlythyr