Alaw Dafydd am ddatblygu’r gwyddorau a’r Gymraeg

Gwella darpariaeth addysg uwch yn y gwyddorau yw nod Alaw Dafydd, sydd newydd ddechrau ar swydd ran-amser gyda Phrifysgol Aberystwyth fel Swyddog Datblygu’r Gwyddorau.

Gwella darpariaeth addysg uwch yn y gwyddorau yw nod Alaw Dafydd, sydd newydd ddechrau ar swydd ran-amser gyda Phrifysgol Aberystwyth ar gyfnod mamolaeth. Mae ei rôl fel Swyddog Datblygu’r Gwyddorau yn gysylltiedig â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae Alaw yn rhannu ei hamser rhwng y swydd hon a gweithio yn Ysbyty Bronglais.

Merch fferm o ardal Llanilar yw Alaw, ac wrth ddychwelyd i’w bro ar ôl graddio o Brifysgol Caerhirfryn y llynedd mae’n awyddus i ddefnyddio ei phersbectif fel myfyriwr a groesodd y ffin i berswadio darpar-fyfyrwyr i aros yng Nghymru i astudio, ac i fanteisio ar y cyfle i astudio yn y Gymraeg.

Felly sut brofiad yw gweithio fel Swyddog Datblygu’r Gwyddorau Prifysgol Aberystwyth? Yn ôl Alaw, mae ei diwrnodau’n amrywiol iawn, ac mae lot o waith dysgu – mae’n cyfaddef bod bywyd prifysgol yn edrych yn wahanol iawn i’r “ochr arall i’r ffens” fel myfyriwr!

Elfen bwysig o’r swydd yw cydweithio â darlithwyr a chydlynu digwyddiadau a phrosiectau cydweithredol, fel y gynhadledd wyddonol. Mae Alaw’n “edrych ymlaen at weld ffrwyth y gwaith” yma ac i weld sut y gall digwyddiad fel hyn gyfoethogi profiad myfyrwyr cyfrwng Cymraeg.

Trwy’r rôl hon a’i swydd fel Gwyddonydd Biofeddygol dan hyfforddiant yn dadansoddi gwaed yn yr ysbyty lleol, mae Alaw am gael effaith bositif ar y gwyddorau a’r Gymraeg. “Rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu parhau i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio pynciau gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg” a “thorri tir newydd” trwy ehangu’r ddarpariaeth, y prosiectau a’r adnoddau sydd ar gael, er mwyn gwella profiad myfyrwyr sy’n dewis astudio’r gwyddorau yn eu mamiaith.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.

Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7

Cylchlythyr