Ar ôl treulio dros bedair blynedd yn gweithio i’r gwasanaeth iechyd fel Swyddog Iaith, mae Gwenan Davies wedi dechrau ar ei swydd newydd, fel Swyddog Datblygu: Marchnata a Chyfathrebu y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Gwenan sy’n gyfrifol am gynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn cyflwyniadau i ysgolion yn y de-orllewin. Ei gobaith yw cyflwyno manteision sgiliau Cymraeg er mwyn annog mwy a mwy o ddisgyblion i barhau â’u haddysg cyfrwng Cymraeg, boed hynny mewn prifysgol neu mewn coleg addysg bellach.
“Mae’n bwysig iawn iddynt ystyried y Gymraeg fel sgil gwerthfawr pan fyddan nhw’n chwilio am swydd – mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol dwyieithog,” meddai. Ac mae Gwenan yn gwybod hynny’n iawn, gan iddi gael blas ar bethau o safbwynt cleifion a oedd yn galw am wasanaeth yn y Gymraeg yn ei rôl fel Swyddog Iaith gyda’r Bwrdd Iechyd lleol.
Yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Mydroilyn, mae Gwenan wedi bod yn rhannu ei hamser rhwng gweithgarwch yn ei chymuned adre’ yng Ngheredigion a byw a gweithio yng Nghaerfyrddin, ac mae’n cyfaddef bod y car bach yn ‘nabod y ffordd yn dda! Mae’n Gadeirydd Pwyllgor Gweithgareddau CFfI Ceredigion eleni ac wedi cymryd rhan ym mhob agwedd ar weithgarwch y mudiad. Yn wir, yn ôl Gwenan ni fyddai’n gwneud y swydd hon heb y sylfaen gadarn a gafodd gyda mudiad y ffermwyr ifanc.
Mae’n siŵr y gwelwch chi Gwenan a’i gwên yn hyrwyddo cyrsiau’r Coleg Cymraeg yn eich ardal chi’n fuan.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg360.