Jest y job i Elin Haf Williams yn helpu ffermwyr lleol

Elin Haf Williams sydd wedi’i phenodi’n Swyddog Datblygu De Sir Drefaldwyn ar gyfer prosiect Cyswllt Ffermio.

Elin Haf Williams sydd wedi’i phenodi’n Swyddog Datblygu De Sir Drefaldwyn ar gyfer prosiect Cyswllt Ffermio.

Mae’n byw ar y fferm deuluol yn Llanwrin ger Machynlleth, ac er bod y swydd wedi’i lleoli yn swyddfa Menter a Busnes yn Aberystwyth, bydd yn teithio tipyn ar hyd de Sir Drefaldwyn a’r marchnadoedd da byw lleol yn hyrwyddo rhaglen Cyswllt Ffermio i’r ffermwyr lleol. Aethom i holi ambell gwestiwn iddi…

Beth yw’r peth gorau am Sir Drefaldwyn?

Fel un o’r ardal, dim ond un ateb sydd i’r cwestiwn yma… popeth! Does dim teimlad gwell na gweithio yn eich milltir sgwâr! Mae’n rhaid i mi nodi hefyd ei bod hi’n ardal hynod o ‘bref’ i fyw!

Beth fuoch chi’n ei wneud cyn y swydd hon?

Roeddwn i’n Swyddog Amaethyddol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, hefyd yn gweithredu ledled Sir Drefaldwyn. Roedd dibenion y rôl yn cynnwys ymweld â ffermydd llaeth y sir yn darparu cyngor ac arweiniad ynglŷn â’r rheolau amgylcheddol diweddaraf ynghyd â’r ffyrdd mwyaf effeithiol o reoli llygredd ar y fferm. Un agwedd hollbwysig o’r rôl oedd adnabod a chyfeirio’r ffermwyr at y ffenestri grantiau diweddaraf.

Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?

Rwy’n mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, canu ac wrth gwrs yn mynychu’r clwb ffermwyr ifanc lleol, sef Clwb Bro Ddyfi! Ble byddai unrhyw un o gefn gwlad heb y ffermwyr ifanc, dwed?! Mae ’na rywbeth gwahanol i’w wneud bob wythnos, boed yn adloniant, paratoi at rali neu nosweithiau o gemau hwylus! Ar wahân i hynny byddaf yn treulio gweddill fy amser adre ar y fferm, mae yno wastad rhywbeth i’w wneud yno!

Swyddfa neu gae?

Cae! Does ’nam byd gwell na bod tu allan, gan roi rhyddid i feddwl yn rhydd heb fod yn sownd yn edrych ar bedair wal! Ond ar ôl deud hyn, ga’i ddim llawer wedi’i wneud yn sefyll mewn cae trwy’r dydd! Mae’n bwysig cal y balans yn iawn dwi’n meddwl.

Ebost neu sgwrs ffôn?

Sgwrs ffôn bob tro!

Pa ymadrodd ydych chi’n ei ddefnyddio’n rhy aml?

Dwi’m yn Gog na Hwntw, dwi o’r Canolbarth!

Pa wahaniaeth hoffech chi ei wneud yn eich swydd?

Y prif wahaniaeth dwi eisiau ei gyflawni yw gwneud yn siŵr bod holl ffermydd De Sir Drefaldwyn yn ymwybodol o’r holl gefnogaeth sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio. Yn yr adeg ansicr sydd ohoni mae hi’n hollbwysig bod y ffermwyr yn manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael iddynt er mwyn gwneud yn siŵr bod eu busnesau yn gweithredu mewn modd effeithlon a phroffidiol. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at ddod i adnabod y ffermydd lleol a gweithredu fel wyneb cyfarwydd iddynt!

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar golwg360.

YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr