Jest y Job i Guto Jones o Ddinas Dinlle

Guto Siôn Jones o Ddinas Dinlle yw aelod diweddara’ tîm Bro360. Bydd yn treulio ei amser yn mynd o gwmpas ei fro enedigol yn Arfon yn ysgogi pobl a chymunedau i fanteisio ar y cynllun newydd i greu gwefannau newyddion lleol Cymraeg. Felly pwy yw Guto Jones?

Beth fuoch chi’n ei wneud cyn y swydd hon?
Ar ôl astudio hanes ym Mhrifysgol Lerpwl, gweithiais gyda chwmni banc Lloyds yn Lerpwl am naw mis er mwyn hel arian i drafeilio De America am dri mis cyn y Nadolig.

Pa un oedd y wlad orau i chi ymweld â hi?
Colombia. Traethau hardd, mynyddoedd syfrdanol a bwyd bendigedig. Mae’r bobl yn hynod o groesawgar ac yn gwybod sut i gael hwyl!

Sut le oedd Lerpwl i astudio?

Fe wnes i fwynhau yn fawr yn Lerpwl, ac yn ogystal ag astudio, roeddwn i’n un o’r rhai wnaeth sefydlu Cymdeithas Myfyrwyr Cymreig Lerpwl yn 2016, ac mae’n dal i fynd o nerth i nerth.

Sut fyddwch chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?
Rwy’n mwynhau gwylio pêl-droed – dwi’n gefnogwr brwd o Everton ac o dîm rhyngwladol Cymru, ac mae gen i docyn tymor yn y ‘Gwladys Street’. Os nad wy’n gwylio pêl-droed, rwy’n cymdeithasu gyda ffrindiau ac yn gwrando ar gerddoriaeth.

Sut ydych chi’n cadw’n heini?
Dim ar hyn o bryd, dim ond cerdded i’r tŷ tafarn!

Beth yw eich hoff swydd hyd yn hyn?
Gweithio ar fan hufen iâ. Digon o samplau am ddim!

Rhowch syniad i ni o ddiwrnod arferol yn eich swydd newydd.
Cysylltu gydag amrywiaeth o bobl a mudiadau er mwyn trefnu cwrdd â nhw. Yna, bydd posib eu hannog i gyfrannu at eu gwefannau bro leol gyda phob math o straeon.

Beth yw’r peth gorau am eich bro enedigol?
Agosrwydd y môr a’r mynyddoedd at ei gilydd.

Pa wahaniaeth hoffech chi ei wneud yn eich swydd?
Hoffwn annog pob math o bobl i gymryd rhan yn y prosiect, ac ysgogi mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg ar y rhyngrwyd. Y gobaith yw creu chwyldro tebyg i’r un a grëwyd gan y papurau bro yn y ganrif ddiwethaf.

Pam ddylai pobl ardal Arfon gymryd rhan gyda Bro360?
Mae’n gyfle gwych i bobl yr ardal greu a chynnal eu gwefannau bro, ac mae croeso i bawb gyfrannu. Mae’n brosiect cyffrous, ac yn rhoi llwyfan i newyddion lleol Cymreig a Chymraeg ar y we.

Byw i weithio, neu weithio i fyw?
Mae’n rhaid mwynhau gweithio er mwyn gallu byw.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg360.

Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7

Cylchlythyr