Jest y job i Gwenan yng nghanol y llyfrau

Gwenan Jones o Langwyryfon yw Swyddog Datblygu Gwerthiant newydd Cyngor Llyfrau Cymru. Ond pwy yw Gwenan?

Beth oedd yn eich denu at y swydd yma?

Oherwydd bod llyfrau’n gymaint o ddiléit personol, a bod hybu darllen yn rhywbeth dw i’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Yn ogystal, teimlaf fod y swydd yma’n gyfle gwych i gael dysgu mwy am y byd cyhoeddi llyfrau.

Beth oeddech chi’n gwneud cyn hyn?

Mi fues i’n gweithio gyda Menter a Busnes, ar brosiect Cyswllt Ffermio, am dair blynedd a hanner. Fy swydd oedd Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth, yn helpu i drefnu cymorthfeydd un-i-un y prosiect a sicrhau bod yr holl ohebiaeth oedd yn cael ei anfon allan i hyrwyddo digwyddiadau ac ymgyrchoedd y rhaglen yn gywir ac o safon.

Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?

Gwrando ar gerddoriaeth, mynd i weld fy hoff fandiau yn chwarae’n fyw, treulio amser gyda theulu a ffrindiau, mynd i’r theatr, a darllen wrth gwrs!

Llyfr neu ffilm?

Er fy mod i’n mwynhau ffilmiau, mae’n rhaid i mi ddweud llyfr. Mae nifer o’r ffilmiau gorau wedi cychwyn fel llyfr!

Te neu goffi?

Te, ond dw i ddim yn yfed dim un o’r ddau yn aml – mae’n well gen i gael gwydriad o laeth!

Pwy yw eich hoff gymeriad ffuglen?

Elizabeth Bennet o Pride and Prejudice, oherwydd mae hi’n berson cryf nad yw’n ofni dweud ei barn a sefyll i fyny dros yr hyn mae hi’n credu. Mae ganddi hiwmor da hefyd, sy’n bwysig!

Beth yw eich hoff ddywediad?

‘Daw eto haul ar fryn’. Dywediad positif ac un pwysig i’w gofio.

Pwy ydych chi’n ei edmygu?

Ateb cliche efallai, ond fy nheulu – nhw sydd yn gyfrifol am fy siapio i fel person. Dw i hefyd yn edmygu unigolion sydd â’r hyder i drafod eu problemau iechyd (meddyliol neu gorfforol) yn agored ac sydd yn darparu platfform i eraill wneud yr un peth.

Beth yw’r allwedd i lwyddiant mewn swydd?

Bod yn barod i ddysgu a derbyn cyngor, rhoi o’ch gorau bob amser, a pharodrwydd i helpu eraill.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar golwg360.

YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr